Llongyfarchiadau i’r Parch Goronwy Evans, Llanbed ar gael ei anrhydeddu yng ngwobrau Uchel Siryf Dyfed eleni. Mewn seremoni arbennig yn Arberth ar ddydd Sadwrn, y 23ain o Fawrth, roedd Goronwy yn un o saith o bobl – ar draws hen sir Dyfed – i dderbyn gwobr fel cydnabyddiaeth am eu cyfraniadau sylweddol a gwerthfawr i’w cymunedau.
Gyda’i wraig, Beti, mae cyn-weinidog Capel Brondeifi wedi cydlynu ymdrechion yn lleol i godi dros filiwn o bunnau i elusen Plant Mewn Angen y BBC, dros gyfnod o 35 mlynedd. Bu hefyd yn Gadeirydd Cangen Elusen Ymchwil Cancr Llanbed a Llanybydder am dros 20 mlynedd.
Yn ogystal, bu’n Ysgrifennydd Cyffredinol Eisteddfod Rhys Thomas James Pantyfedwen am 35 mlynedd, a’n Ysgrifennydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod Genedlaethol pan ddaeth hi i Lanbed yn 1984. Fe wnaeth ymddeol o’r weinidogaeth yn 2016, ar ôl dros hanner canrif o wasanaeth.
Llongyfarchiadau gwresog iddo, ac ymddiheuriadau na chynhwyswyd y llun yn rhifyn Ebrill Papur Bro Clonc.