Ydych chi’n adnabod rhywun sy’n methu darllen oherwydd nam ar y golwg? Oes gennych ffrind neu aelod o’r teulu sydd wedi mynd yn ddall? Ydych chi wedi clywed am Lyfrau Llafar Cymru?
Wel mae’n braf gallu cyhoeddi bod llyfrau Cymraeg a chyhoeddiadau eraill ar gael ar gryno ddisg am ddim i’r rhai sydd eu hangen nhw.
Mae gan Lyfrau Llafar Cymru wirfoddolwyr sy’n darllen y cyhoeddiadau tra’n cael eu recordio. Wedyn postir y cryno ddisgiau i’r cartrefi.
Mae ganddynt lyfrau o bob math ar gryno ddisg yn cynnwys nofelau, straeon byrion, cofiannau, barddoniaeth, yn ogystal â phregethau a darlleniadau o’r Beibl.
Mae’r gwasanaeth yn rhad ac am ddim i’r rhai sydd wedi’u cofrestru’n rhannol ddall ac anfonir 4000 o deitlau allan bob blwyddyn.
Mae Papur Bro Clonc yn cael ei recordio hefyd bob mis, a sawl person yn yr ardal hon yn manteisio ar hynny er mwyn gwerthfawrogi cynnwys y papur bro er eu bod yn methu darllen.
Daw’r gwasanaeth hwn a chysur i lawer sydd wedi arfer â darllen. Mae’n gweithio’n hawdd. Gellir dewis o gatlog o deitlau. Anfonir a dychwelir cryno ddisgiau yn rhad ac am ddim mewn waledi drwy’r post a gall gwrandawyr awgrymu teitlau i’w recordio hefyd.
Yn ddiweddar, cyflwynodd swyddogion Papur Bro Clonc rodd o £500.00 tuag at Lyfrau Llafar Cymru. Daeth Rhian Evans, un o sylfaenwyr y gwasanaeth yn 1979 i annerch mynychwyr cyfarfod blynyddol Papur Bro Clonc. Roedd y cyfraniad bychan hwn yn gydnabyddiaeth o’r ffaith bod y gymdeithas yn recordio’r papur bro ar gyfer pobl yr ardal.
Os y gwyddoch am rywun a fyddai’n dymuno derbyn y gwasanaeth gwerthfawr hwn ac i gael rhagor o wybodaeth am y cynllun a chopi o’r catlog o 2000 o deitlau, cysylltwch â Llyfrau Llafar Cymru, Parc Dewi Sant, Caerfyrddin, SA31 3HB. Ffôn: 01267 238225.