Ras 10 milltir ar lannau’r Teifi yn denu rhedwyr

gan Richard Marks

Er bod Sul y Pasg yn syrthio’n hwyr yn Ebrill eleni, roedd y tywydd poeth a gafwyd ar gyfer ras heol 10 milltir Teifi yn Llanbed yn annisgwyl ac yn peri anawsterau sylweddol i ambell un o’r 129 o redwyr a ddaeth i’r llinell gychwyn.

Hon yw ras gyntaf y flwyddyn ym mhencampwriaeth Clwb Sarn Helen a rhedodd 35 aelod y cwrs cyfarwydd i fyny’r dyffryn i Lanfair ac yn ôl lawr trwy Gellan.

Cymaint yw atyniad y ras yng ngorllewin Cymru mai dim ond un ohonynt, Sion Price, lwyddodd i orffen yn y deg uchaf y tro yma, hynny mewn 60 munud a 21 eiliad.

Am yr ail flwyddyn yn olynol, Rob Johnson o glwb Aberystwyth (57.11) ddaeth yn 1af, un o 6 i orffen dan yr awr. Tasha Sexton o glwb Sir Benfro (71.24) oedd y fenyw 1af.

Er hynny, daeth nifer o wobrau i aelodau Sarn Helen – Carwyn Davies (66.29) a Kevin Hughes (66.39) yn 2il a 3ydd yn nosbarth y dynion dros 40, Meic Davies (67.00) yn 3ydd ddyn dros 50, Caryl Wyn Davies (74.57) yn fenyw gyntaf dan 35, Eleri Rivers (79.19) yn fenyw 1af dros 35 a Delyth Crimes (83.50 record bersonol) yn 3edd fenyw dros 45.

Cafwyd ymdrechion da iawn hefyd gan Glyn Price (68.44) a Mark Rivers (69.02) a llongyfarchiadau i’r cystadleuwyr i gyd am herio’r pellter a gwres y dydd.

Ceir mwy o ganlyniadau aelodau Clwb Sarn Helen yn rhifyn mis Mai Papur Bro Clonc.