Peiriannwr Trydan o Gwmann sy’n ateb cwestiynau ‘Cadwyn Cyfrinachau’ Papur Bro Clonc y mis hwn.
Mae Ryan Doughty yn gweithio i Princes Gate ac yn chwarae rygbi i dîm cyntaf Clwb Rygbi Llanbed.
Yn ei atebion, dangosa Ryan fod teulu’n bwysig iddo. Ei hoff atgof plentyndod yw mynd lawr i fferm hen fam-gu Glaneinon a quiche Mam-gu Y Fenni yw ei hoff gludfwyd. Mae’n talu teyrnged i’w dad am fod yn ddylanwad da arno ond yn cofio cael row gan ei fam am dorri braich cyn mynd ar wyliau i Sbaen! Ar ben hyn i gyd, Tad-cu Llanybydder yw ei arwr.
Mae’n gymeriad caredig. Byddai’n bwcio gwyliau i’r teulu petai’n cael y cyfle i wario £10,000 mewn awr, ac mae gatre yng Nghwmann gyda’r teulu y mae e mwyaf hapus.
Pan oedd yn blentyn roedd eisiau bod yn chwaraewr rygbi proffesiynol, ond dywed fod cymwyso fel trydanwr o Goleg Sir Gâr wedi newid ei fywyd.
Ond beth oedd y peth mwyaf rhamantus a wnaeth rywun iddo? Beth yw ei farn e am yr ardal hon? Beth sy’n mynd o dan ei groen a phryd llefodd e ddiwethaf? Cewch wybod yr atebion hyn a mwy yn rhifyn Medi Papur Bro Clonc.