Y gallu i wneud pobl i chwerthin

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Un o dripledi yw David Priddey.  Saer Coed wrth ei alwedigaeth ac ef sy’n ateb cwestiynau ‘Cadwyn Cyfrinachau’ Papur Bro Clonc y mis hwn.

Dywed David mai’r gallu i wneud pobl i chwerthin yw ei arbenigedd, a phetai’n anweladwy am ddiwrnod y byddai’n chwarae drygioni ar y bois yn y gwaith.

Tipyn o dderyn felly.  Petai’n cael y cyfle i gyflwyno deddf yn y Cynulliad, gwaredu black box yn y car fyddai hynny.  Mae gyrru’n golygu cymaint iddo a phetai’n cael cyfle i wario £10,000 mewn awr, byddai’n prynu car newydd.

Mae’n cymryd ei waith o ddifrif, ac felly’n mynd yn grac bob tro mae ei chwaer Kerry’n mynd â’i dŵls a pheidio â’u roi nhw nôl.

Pwy yw ei arwr?  Pa mor wyrdd yw e?  Gyda phwy y byddai’n hoffi bod yn sownd ar ynys anghysbell?  A sawl ffrind sydd ganddo ar facebook?  Cewch ddarganfod hyn i gyd a mwy wrth brynu copi o Clonc mis Mehefin.