Ymlaen â’r gwaith medd trefnwyr yr Eisteddfod

gan Gwenllian Carr
Elin Jones yn cyflwyno testunnau Ceredigion i’r Archdderwydd.
Elin Jones yn cyflwyno testunnau Ceredigion i’r Archdderwydd.

Gydag wyth mis i fynd tan Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion, mae’r Gronfa Leol wedi cyrraedd ei tharged o £330,000 – ac mae’r swyddogion yn benderfynol o barhau i drefnu gweithgareddau lleol tan y diwedd!

Gan gyhoeddi’r newyddion yng nghyfarfod y Pwyllgor Gwaith yn Nhregaron yr wythnos ddiwethaf, dywedodd y Cadeirydd, Elin Jones AC, “Mae’n bleser cyhoeddi ein bod ni wedi cyrraedd y targed swyddogol ar gyfer y Gronfa Leol. Diolch o galon i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r gwaith hyd yn hyn. Mae’n wych o beth gweld cymaint o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar draws y sir gyfan yn dod â phobl o bob cefndir ac oedran ynghyd.

“Ry’n ni’n gwybod bod llawer iawn o weithgareddau eisoes yn y calendr ac amryw ar y gweill ar draws y dalgylch dros y misoedd nesaf, felly ry’n ni wedi penderfynu parhau â’r gwaith. Mae’r gweithgareddau’n ffordd arbennig o godi ymwybyddiaeth a chreu cyffro am yr ŵyl. Ac ry’n ni’n awyddus i ddefnyddio’r misoedd nesaf i ehangu apêl yr Eisteddfod ar draws yr ardal, a denu ymwelwyr newydd atom i Dregaron ym mis Awst.

“Fyddwn ni ddim yn rhoi targed ariannol newydd i unrhyw ardal. Yn hytrach, fe fyddwn ni’n eu hannog i barhau gyda’r gwaith da am ychydig fisoedd yn fwy, ac fe fyddwn ni’n gwneud defnydd arbennig o unrhyw arian ychwanegol a ddaw i’r coffrau.

“Ry’n ni’n awyddus i edrych ar sut ry’n ni’n hyrwyddo’r iaith i gynulleidfa newydd drwy ddatblygu Pentref Dysgu Cymraeg newydd sbon, ac fe fyddwn ni hefyd yn gwella’r cyfleusterau eistedd, cysgodi ac ymlacio ar draws y Maes. Ry’n ni hefyd yn gobeithio gweithio gyda phartneriaid allweddol i greu ardal newydd sy’n hyrwyddo cefn gwlad, y Pentref Gwledig.

“Ry’n ni am ysbrydoli ymwelwyr. Ry’n ni eisiau i Eisteddfod Ceredigion fod yn wythnos wirioneddol wych a fydd yn creu atgofion oes. Ry’n ni am i’n gŵyl ni fod yn un o’r goreuon, ac ry’n ni am barhau i drefnu a chynnal gweithgareddau ac annog pobl i ymuno â ni tan y diwedd.

“Mae’r cydweithio dros y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn anhygoel, ac mae gennym ni wyth mis arall i fynd nes ein bod ni’n agor y giatiau yn Nhregaron. Felly, ymlaen â ni i godi ymwybyddiaeth a denu pobl atom. Dyma ein cyfle ni i adael ein hôl ar ein gŵyl genedlaethol ac i sicrhau bod pawb yn cael croeso cynnes yma yng Ngheredigion ym mis Awst.”

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn Nhregaron o 1-8 Awst. Am ragor o wybodaeth ewch ar-lein, www.eisteddfod.cymru.