#AtgofGen Y Babell Ieuenctid yn anniogel a diwrnod y Bandiau Pres yn Llanbed!

Uchafbwyntiau diwrnod cyntaf Eisteddfod Genedlaethol Llanbedr Pont Steffan a’r fro 1984.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

12 oed oeddwn i pan ddaeth yr Eisteddfod Genedlaethol i Lanbed ac o fyw yn y dref, roeddwn yn gallu mynd a dod fel y mynnwn drwy’r wythnos.

Gan ddechrau yn fore ar ddydd Sadwrn roeddwn yn tywys carafanau ar fy meic i’w safleoedd priodol ar y Maes Carafanau. Roedd y carafanwyr yn cyrraedd y Maes Carafanau o Ffordd Llanwnnen gan droi i’r lôn oedd yn arwain at adfeilion hen Blas Ffynnonbedr.

Lleolwyd Swyddfa’r Maes Carafanau mewn portacabin ger yr adfeilion, ac oddi yno roeddwn yn arwain un garafán ar y tro i’w safleoedd a fesurwyd yn barod gan aelodau’r pwyllgor carafanau. Petawn yn eu helpu i bacio nôl i’w safleoedd hefyd byddai ambell eisteddfodwr hael yn rhoi cildwrn i mi am helpu. Byddai pob ceiniog yn cyfri ar gyfer cael arian i’w wario ar y Maes yn ystod yr wythnos!

Sawl gwaith wrth baratoi’r maes carafanau ac wrth dywys carafanau yno, meddyliais beth fyddai Syr Herbert Lloyd, Plas Ffynnonbedr wedi meddwl o ddyfodiad yr Eisteddfod ar ei dir. Dyn mileinig ydoedd yn ôl y son, ac er mwyn etifeddu Cae Sion Philip, fe dwyllodd y dyn gonest hwnnw fel ei fod yn cael ei arestio.

Erbyn 2 o’r gloch y prynhawn aethon ni fel teulu i’r pafiliwn i wylio’r Seremoni Agoriadol gan fod dad fel Is-Gadeirydd y Pwyllgor Carafanau yn eistedd ar y llwyfan ymhlith y pwysigion eraill!

Yn y Seremoni Agoriadol dywedodd Maer y Dref y Cyng. Vincent Evans ei fod yn poeni am ddyfodol y Gymraeg tu allan i furiau’r eisteddfod a’i fod o’r farn y dylid cadw’r iaith yn fyw ymhlith y cyhoedd ac yn iaith a ddefnyddir gan y dyn ar y stryd.

Roedd Agoriad Swyddogol y pebyll eraill heddiw hefyd, ond bu’n rhaid gohirio perfformiad Ail Symudiad yn y babell ieuenctid sef Bedlam oherwydd bod rhan o’r eisteddfa wedi dymchwel. A oedd yr hen Syr Herbert Lloyd wedi melltithio’r lle tybed? Diolch byth fod Emyr Jones y Gof a’i fab Kevin o Lanbed ar alw ac fe atgyweiriwyd y gwendid yn fframwaith y babell a llwyddwyd i adfer rhaglen y dydd ymhen dwy awr.

Yn ôl y Tivy Side a gyhoeddwyd ar y 10fed o Awst derbyniodd Ail Symudiad gymeradwyaeth fyddarol gan y gynulleidfa a oedd yn llanw’r babell. Ymhlith y deg cân newydd a ganwyd ganddynt, roedd Cân Bedlam a gyfansoddwyd gan Iona James. Yn chwarae’r brif gitâr iddynt oedd Brian Breeze a arferai chwarae i Bonnie Tyler.

Canlyniadau’r dydd: Bandiau Pres Dosbarth D: 1. Band Arian y Drenewydd; 2. Seindorf Porthaethwy; 3. Seindorf Arian Aberystwyth. Bandiau Pres Dosbarth C: 1. Seindorf Arian Aberystwyth; 2. Seindorf Porthaethwy; 3. Band Arian y Drenewydd. Bandiau Pres Dosbarth B: 1. Bedwas, Tretomas a Machen; 2. Band Gwauncaegurwen; 3. Band Glofa Coed Eli. Bandiau Pres Dosbarth A: 1. Band Gwaith Rhymni; 2. Band Glofa Coed Eli. Côr Plant dan 19: 1. Ysgol Uwchradd Llanbedr Pont Steffan. Bandiau Pres Ieuenctid: 1. Seindorf Ieuenctid Cross Keys; 2. Seindorf Ieuenctid Porthaethwy; 3. Seindorf Arian Ieuenctid Aberystwyth. Côr Capel neu Eglwys neu Gymdogaeth: 1. Cantorion Creigiau, Caerdydd; 2. Côr Rhuthun a’r cylch; 3. Cambrensis (Bedyddwyr Caerdydd).

Er bod y tywydd yn oer a chymylog gydag ambell gawod o law trwm ar y diwrnod cyntaf, roedd 13,000 o bobl yn bresennol.

Beth oedd ‘mlaen gyda’r hwyr:
Cyngerdd “Promenâd Ysgolion” yn y Pafiliwn gyda Chôr Telynau Ceredigion, Côr Ysgol Ramadeg Llandysul, Parti Dawns Ysgol Gyfun Aberaeron, Teyrnged i’r Archdderwydd gan Ysgol Uwchradd Tregaron, Ensemble Ffliwtiau Ysgol Gyfun Penglais, Côr Ysgol Gyfun Penweddig, Detholiad allan o ‘Wel ‘na Wledd’ Ysgol Uwchradd Llanbedr Pont Steffan, Côr Ysgol Uwchradd Aberteifi, Band Chwyth Ceredigion, Cerddorfa Ceredigion a Chôr Unedig Ysgolion Uwchradd Ceredigion. £2.50
Drama Gerdd y Pwyllgor Ieuenctid “Dewrach Rhain” gan Olaf Davies, Tecwyn Ifan, Elin James, Euros Lewis a Trefor Jones-Morris yn Theatr Felinfach. £2.50
Ioan Gwynedd (Sacsoffon), Malcolm Gwyn a Huw Chiswell dan nawdd CAC yn Yr Old Quarry, Llanbed. £2.00