#AtgofGen Dydd Sadwrn olaf y cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Llanbedr Pont Steffan a’r fro 1984

Papur Bro Clonc yn adrodd am fenyw yn sownd yng nghefn y Pafiliwn a honiadau am aflonyddu rhywiol.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Cyhoeddwyd trydydd rhifyn yr wythnos o Bapur Bro Clonc heddiw gyda llun pen-ôl y fenyw a aeth yn sownd yn y pafiliwn a phenillion i gofio’r digwyddiad anffortunus.

Brynhawn dydd Iau’r cadeirio
A phawb yn eiste’n dwt,
Fe gafodd rhoces syniad
I ddod i mewn trwy’r gwt.

Gosododd ysgol ddringo
I bwyso yn y cefn,
Fel gallai ddringo i fyny
A dringo nôl drachefn.

Fe stwffiodd bentigili
I fwlch rhwng wal a’r to,
Ac yno bu’n cwhwfan
Fel gwnaeth Erika Roe.

Fe gafodd weld y llwyfan
Heb fawr o golli chwys,
A WJ’n urddasol
‘N cadeirio Aled Rhys.

Ynghanol yr holl firi
A’r dathlu heintus llon,
Fe ffeindiodd hon ei bod hi
Yn styc rhwng tin a bron.

Danfonwyd am beiriannydd
We’n fisi’n trwsio ffiws,
A chaed hi’n rhydd mewn amser
Trwy ddatod byllt a sgriws.

Chi eisteddfodwyr pybur
Os fyddwch fyth heb stôl –
Sdim angen fflachio’ch bronnau
Na dangos eich penol!

Edwin Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith oedd Llywydd y Dydd heddiw a chafwyd gair o ddiolch ganddo yn y rhifyn olaf o Clonc:

“Dymuna Edwin Jones, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod longyfarch ‘Clonc’ am ei waith yn ystod yr wythnos. Ac ar ddydd olaf yr Eisteddfod carai ddiolch i BAWB a weithiodd mor galed dros y tair blynedd ddiwethaf i sicrhau llwyddiant y brifwyl.”

Mewn cyfarfod o 40 o fenywod gan fudiad Cymorth i Fenywod Cymru honnwyd bod menywod ifanc yn cael eu haflonyddu’r rhywiol yn yr Eisteddfod Genedlaethol a bod y mannau peryclaf yn y Maes Carafanau a’r Maes Pebyll.

Ond adroddwyd yn y Western Mail ar y 13eg Awst nad oedd yr heddlu na swyddogion yr Eisteddfod wedi derbyn unrhyw gwynion am hyn. Dywedodd cynrychiolydd Cymorth i Fenywod Cymru bod nifer cynyddol o fenywod yn achwyn am aflonyddu rhywiol gan grwpiau o ieuenctid wedi meddwi.

Ymatebodd Gwesyn Williams, Cadeirydd y Pwyllgor Carafanau mewn llythyr yn y Western Mail yn hwyrach yn yr wythnos gan ddweud na welodd e neb o fudiad Cymorth i Fenywod Cymru yn y Maes Carafanau yn ystod yr wythnos. Ychwanegodd fod llawer o rieni plant yn eu harddegau wedi galw yn swyddfa’r Maes Carafanau i ganmol y ffordd y gweinyddwyd y cyfleusterau. O’r 900 o garafanau a fu yno, dim ond tri chwyn a gafwyd o ymddygiad swnllyd, a deliwyd a hwy mewn ffyrdd effeithiol a chyfeillgar gan y stiwardiaid.

Canlyniadau’r dydd: Ruban Glas Offerynnol: 1. Gwawr Owen, Glynarthen. Deuawd: 1. Carol Longden, Clydach a Helen Mason, Penllergaer; 2. Marian Powell a Glenys Jones; 3. Janet Jones a Marie Richards. Adrodd dros 25: 1. Delyth Mai Nicholas, Yr Hendy, Pontarddulais; 2. Bethan Jones, Llanfairpwll; 3. Dennis Davies, Llanrwst. Unawd Operatig: 1. Odette Jones, Trawscoed. Parti Alawon Gwerin dros 18: 1. Merched Dyffryn Dulais, Pontarddulais; 2. Lleisiau Mignedd, Dyffryn Nantlle. 3. Y Crotesi, Llanbed. Arwain Corawl dan 25: 1. Gwawr Owen, Glynarthen; 2. Eleri Davies, Llanbed. Côr Adrodd i unrhyw nifer: 1. Parti Lleisiau Llifon, Bontnewydd; 2 Parti’r Foel, Brynsiencyn; 3. Parti Meillion-y-Maes, Caerfyrddin. Côr Cerdd Dant Deulais neu fwy dros 16 o leisiau: 1. Côr Merched Pantycelyn, Aberystwyth; 2. Merched Uwchllyn, Llanuwchllyn; 3. Côr Cerdd Dant Cwm Tawe, Abertawe. Côr Meibion heb fod dros 40 o leisiau: 1. Côr Meibion yr Eifl, Trefor; 2. Cantorion Gwalia, Abertawe; 3. Côr Meibion Gyrlais, Abertawe. Cwpan Gwynfor am actio: 1. Cwmni Tegid, Y Bala; Cydradd 2. Cwmni Parc, Y Bala a Chwmni Glannau Colwyn, Bae Colwyn.

Canlyniadau’r hwyr: Triawd neu Bedwarawd Cerdd Dant: 1. Triawd Cennin, Garndolbenmaen; 2. Triawd y Gad, Aberystwyth. Gwobr Goffa Llwyd o’r Bryn: 1. Hannah Roberts, Treboeth, Abertawe; 2. Delyth Mai Nicholas, Yr Hendy, Pontarddulais; 3. Ivoreen Williams, Cydweli. Gwobr Goffa David Ellis: 1. Maldwyn Parri, Penygroes; 2. Gareth Wyn Rowlands, Dinbych. Côr Meibion heb fod yn llai na 70 o leisiau: 1. Côr Meibion Llanelli; 2. Côr Meibion y Canoldir, Birmingham; 3. Côr Meibion Ystradgynlais.

Daeth 21,000 o bobl i’r brifwyl heddiw.

Beth oedd ’mlaen gyda’r hwyr:
– Drama Gomisiwn yr Eisteddfod “Y Tadau a’n Cenhedloedd” gan Elfyn Jenkins yn Theatr Coleg Dewi Sant, Llanbed.
Cystadleuaeth Actio Drama Hir gyda Chwmni Theatr Fach Cross Hands yn perfformio “Awel Gref” gan Emlyn Williams yn Theatr Felinfach.
– Noson Cymdeithas yr Iaith yng nghwmni Yr Hwntws a Mari Owen yng Nghlwb Rygbi Llanbed. £2.50
– Noson Werin Clwb Cawl a Chân yng nghwmni Mynediad am Ddim a Sian Wheway yng Nghlwb Rygbi Llanybydder. £2.00
Geraint Lovegreen, Penderyn, Medelwr a Chwarter i Un yn Old Quarry, Llanbed.
Twrw Tanllyd gyda Maffia Mr Huw, Treiglad Pherffaith, Pal a’r Gwylliaid Cochion a Disgo Calimero yn Neuadd Fictoria Llanbed. £3.00
– Cwmni Hwyl a Fflag / Sgwâr Un yn cyflwyno drama newydd Gareth Miles “Ffatri Serch” gyda Clive Roberts, Mari Gwilym, Eirlys Hywel, Wyn Bowen Harris a Cefin (Hapnod) Roberts yn Neuadd Ysgol Gyfun Aberaeron. £3.00