#AtgofLlanbed – Y syndod o gael cwmni Max Boyce i frecwast

Mae Dorian Jones ysgrifennydd Eisteddfod Llambed wedi bod yn ran o’r prif seremonïau ers 40 mlynedd.

gan Dorian Jones
Cadeirio-2009

Fel y rhan fwya’ o’m cenhedlaeth i, yr atgofion cynhara’ sydd gyda mi o’r eisteddfod yw’r pafiliwn mawr ar gaeau’r ysgol uwchradd.

Mae gennyf gof plentyn o fynd i’r ’marquee’, yn enwedig ar gyfer y cyngherddau agoriadol ac yn y blaen lle, os nad oedd gennych chi docyn o flaen llaw, d’oedd gyda chi ddim gobaith o fynd i mewn i fwynhau’r arlwy. Mi oedd y pafiliwn o dan ei sang! ‘Roedd artistiaid cenedlaethol yn dod i ymweld â’r eisteddfod gan gynnwys Hogiau’r Wyddfa, Mary Hopcyn, Hogia Llandegai, Tony ac Aloma a Max Boyce i enwi ond rhai. Yn wir, wedi perfformio yng nghyngerdd yr eisteddfod yn 1971, bu i un o’r artistiaid fwynhau ei hun braidd yn ormodol yn y rhialtwch a ddigwyddodd ar ôl y gyngerdd! Cynigiwyd llety iddo am y noswaith yn Landre gan fy nhad! Syndod mawr i’m chwaer Delyth a mi oedd cael cwmni Max Boyce ar y bwrdd brecwast y bore canlynol! 

Mi oedd tipyn o sbort i’w gael yn ystod y cyfnod yma wrth i ni fechgyn a merched fynd o gwmpas y stondinau oedd o gwmpas y ’maes’, ac mi oedd yn gystadleuaeth frwd rhyngom i weld pwy fyddai’n gwerthu’r nifer fwya’ o raglenni swyddogol yr eisteddfod y flwyddyn honno. Nid oedd gwobr i’r enillydd, dim ond sbort y peth, yn enwedig o weld ambell oedolyn yn mynd braidd yn annifyr wedi iddynt glywed y term ‘ody chi moin rhaglen’ hyd at syrffed!

Rhaid oedd cystadlu wrth gwrs, ac er ambell lwyddiant nid oedd hyn yn rywbeth greddfol iawn i mi. Unwaith oedd y gystadleuaeth drosodd, ymuno’n syth gyda’m ffrindiau i gicio pêl ar gaeau’r ysgol. Anwybyddu’r feirniadaeth yn gyfangwbwl, cyn i rywun weiddi amdanaf i fynd i’r llwyfan er mwyn casglu’r wobr! 

Ym 1979, cefais wahoddiad gan y Parchedig Goronwy Evans i seinio’r corn gwlad ym mhrif seremonïau’r eisteddfod, wedi i’r diweddar Peter Hynd benderfynu ymddeol o’r ddyletswydd yma. Mi fu sawl tro trwstan wrth seinio’r corn gwlad, ond bum wrthi ymhob seremoni, fwy neu lai tan 2004. Cefais bardwn ar ddau ddydd Sadwrn pan oedd yn ddyletswydd ar gapten tîm criced Llanybydder droedio Parc OJ mewn gêmau criced ddiwedd tymor tyngedfennol a fyddai’n penderfynu ffawd Pencampwriaeth Criced Gorllewin Cymru! ‘Rwyf newydd sylweddoli, heblaw am y ddau dro yma, fy mod wedi bod yn ran o’r prif seremonïau ers 40 mlynedd!! Mi fyddwch yn falch iawn o glywed fod y trwmped wedi’i hen gloi yn saff yn y to, a hynny ers sawl blwyddyn!  

Bu’n rhaid ffarwelio â’r ’marquee’ yn 1978 oherwydd costau cynyddol, a symud i neuadd yr ysgol uwchradd ar gyfer eisteddfod 1979, ac yno yr ydym hyd heddiw. Diolch yn fawr i benaethiaid yr ysgol dros y blynyddoedd am ganiatáu i ni gynnal gweithgareddau Gŵyl y Banc Awst yno.

Mae llwyfan Eisteddfod Llambed wedi ei throedio gan fawrion ein cenedl yn y byd llenyddol, canu, adrodd/llefaru, celf a chrefft, mewn cyngherddau mawreddog, nosweithiau llawen, cymanfaoedd canu, rhai ohonynt yn enwau byd enwog erbyn hyn. 

Ond tawel fydd llwyfan Eisteddfod Rhys Thomas James Pantyfedwen, Llanbedr Pont Steffan eleni yn anffodus, am resymau sy’n ddigon amlwg i bawb. Ni chlywir yr alwad am ‘heddwch’ y penwythnos yma, ac mi fydd y corn gwlad yn dal yn ei gês! Ond mawr obeithiwn y clywn y rhain yn seinio’n uchel iawn unwaith eto yn 2021.