Blwyddyn fythgofiadwy Twm Ebbsworth

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Disgrifiwyd Twm Ebbsworth a ddaw yn wreiddiol o Lanwnnen fel llenor “dyfeisgar ac unigryw” gan Anni Llŷn. Mae Twm sydd bellach yn ei ail flwyddyn ym Mhrifysgol Aberystwyth yn astudio Astudiaethau Drama, Ffilm a Theledu yn gobeithio parhau a’i ddiddordeb mewn ysgrifennu am flynyddoedd i ddod.

 

Sut flwyddyn oedd 2019 i chi?

Roedd 2019 yn flwyddyn llawn cyffro a chwerthin. Uchafbwynt fy mlwyddyn oedd ennill cadair genedlaethol Eisteddfod y CFfI yn Wrecsam. Ar ôl ennill y  Goron a’r Gadair yn yr eisteddfod sirol roedd derbyn y brif wobr gan fudiad sydd wedi cynnig gymaint o gyfleoedd i mi dros y blynyddoedd yn anrhydedd mawr i mi.

 

Beth wyt ti’n ei wneud yn dy amser sbar?

Pan nad wyf yn brysur yn mireinio fy ngwaith coleg (jôc!!) rwy’n mwynhau chwarae pêl-droed i’r Geltaidd yng nghynghrair y Brifysgol, ac i Sêr Dewi pan rydw i adref. Rwyf wrth fy modd yn ysgrifennu ac yn wedi bod yn gwastraffu papur gyda fy syniadau ers yn un bach.

 

Pa mor bwysig yw mudiad y Ffermwyr Ifanc i chi?

Mae’r Ffermwyr Ifanc wedi bod yn rhan fawr o’m mywyd cymdeithasol ers blynyddoedd. Mae’r gallu i gymdeithasu a phobl o’r un cefndir a mi o bob cwr o Gymru yn amhrisiadwy.

 

O ble daw dy ddiddordeb mewn barddoni?

Dim syniad o gwbl!

 

Beth mae dy gerdd fuddugol yn ei drafod? 

Roeddwn wedi bod yn pendroni a’r syniad ers hir. Mae’r gerdd yn dilyn hanes ffoaduriaid o Syria sydd wedi ymgartrefi yng Ngheredigion. Roeddwn yn teimlo’n gryf bod rhaid adrodd eu stori, yn ogystal â dathlu’r modd mae cymunedau wedi croesawu ffoaduriaid.

 

Beth sydd ar y gweill nesaf i Twm Ebbsworth?

Mwynhau beth sy’n weddill o fy mywyd coleg gan groesi bysedd bydd modd i mi barhau i ysgrifennu ym mha bynnag fodd.

 

Beth yw dy addewid flwyddyn newydd?

Cofio glanhau’r gegin…