Canslo Marchnad y Werin yn Llanbed ar adeg brysura’r flwyddyn

Cyfraddau cynyddol o’r Coronafeirws yn reswm dros ganslo’r farchnad.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Yn anffodus iawn, ac oherwydd y cyfraddau cynyddol o’r Coronafeirws yn ardal Llanbed, ni chynhelir Marchnad y Werin Llambed y dydd Sadwrn hwn 12fed Rhagfyr.

Dywed Rheolwr y Farchnad: “Os ydych wedi archebu ymlaen llaw gan un o’n masnachwyr, cysylltwch â nhw i wneud trefniadau unigol ar gyfer casglu a thalu.”

Cynhelir Marchnad y Werin fel arfer ar yr 2il a’r 4ydd dydd Sadwrn bob mis rhwng 10yb ac 1yp yn Neuadd Victoria neu gampws Prifysgol y Drindod Dewi Sant.  Sefydlwyd y farchnad boblogaidd hon ryw chwe blynedd yn ôl gan Ymddiriedaeth Transition Llambed.

Gwerthir bara, caws, ffrwythau, llysiau, siytni, jamiau, cacennau, porc, cig eidion, madarch, nwyddau gwydr, dillad unigryw, crefftau pren a mwy.

Pwrpas y farchnad yw rhoi cyfle i brynu bwydydd, cynnyrch a chrefftau lleol. Ar yr un pryd rhoi’r cyfle i gynhyrchwyr lleol ddangos yr hyn sydd ar gael yn agos ac wrth law. Ceir awyrgylch cyfeillgar, croesawgar a chyffyrddus yn y farchnad ynghyd â chaffi bach gwych, rhywfaint o gerddoriaeth fyw ac atyniadau achlysurol eraill fel cyfnewid llyfrau, cyfnewid hadau a chyfnewid planhigion.

Hoffai’r trefnwyr ddiolch i’w holl gwsmeriaid am eu cefnogaeth yn ystod y flwyddyn anodd iawn hon. “Rydym yn dymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd heddychlon a diogel i chi i gyd, ac edrychwn ymlaen at eich gweld chi i gyd ym mis Ionawr 2021. Tan hynny, arhoswch yn ddiogel a chymerwch ofal!”