Deiseb arlein er mwyn achub buddiannau Coleg Llanbed

Llai o gyrsiau, llai o staff a gwerthu eiddo, ydych chi yn poeni am ddyfodol y coleg?

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Pafiliwn Criced y Coleg mewn cyflwr truenus. Llun gan Morfudd Slaymaker.

Mae deiseb arlein yn gwrthwynebu‘r ffordd y caniatawyd i gyfleusterau ac adnoddau Coleg Llanbed ddirywio o dan y rheolaeth bresennol.

Cyn fyfyriwr o’r enw John Loaring a ddechreuodd y ddeiseb heddiw.  Mae John yn aelod o grŵp o gyn fyfyrwyr ar facebook sy’n poeni am ddyfodol y coleg yn Llanbed.

Mae’r brifysgol wedi gwerthu sawl eiddo yn ddiweddar ac mae llawer o adeiladau yn y dref yn wag ganddynt.  Mynegwyd pryder yn ddiweddar hefyd am y cae chwarae ar Heol Pontfaen a chyflwr truenus y Pafiliwn Criced.  Clywyd sibrydion bod bwriad gan y brifysgol i werthu hyn ar gyfer datblygiad adeiladu.

Mae’r ddeiseb yn datgan nad oedd yr uno â Choleg y Drindod Caerfyrddin a Choleg Metropolitan Abertawe o les i Goleg Llanbed.  Ychwanegir bod asedau Llanbed wedi cael eu diddymu yn systematig ac yn fwriadol a’r cronfeydd wedi’u dargyfeirio i Gaerfyrddin ac Abertawe.

Mae’r ddeiseb yn galw ar Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i ryddhau cyfrifon manwl cyhoeddus am faint y gwerthwyd yr asedau hyn ac ymhle y gwariwyd yr arian.

Mae’r ddeiseb yn rhannu gofidiau bod niferoedd staff addysgu a gweinyddol Llanbed wedi eu diswyddo a bod pynciau a chyrsiau wedi’u cwtogi’n ddifrifol.

Pwysieisia’r ddeiseb nad oes gan reolwyr presennol y brifysgol unrhyw empathi â hanes, traddodiadau a diwylliant Coleg Dewi Sant ac nad ydynt wedi dangos unrhyw awydd i sicrhau ei sefydlogrwydd a’i dwf i’r dyfodol.

Nodir felly nad oes gan gyn-fyfyrwyr y Coleg, staff, corff myfyrwyr presennol a phobl Llanbed unrhyw hyder yn rheolaeth Prifysgol Cymru y Drindod Dewis Sant a gelwir ar yr Is-Ganghellor Medwyn Hughes i ymddiswyddo ar unwaith.

Os hoffech arwyddo’r ddeiseb, ewch i wefan change.org