Gwerthwyd 620 o dda stôr o ffermydd lleol ym Mart Llanybydder ddydd Sadwrn. Roedd ansawdd y gwartheg o’r safon uchaf a’r cyfan yn gwerthu am brisau da.
Gwerthwyd y ddau eidon gorau gan Bowen, Pwllglas, Llanllwni am £1,470 yr un a’r anner orau am £1,440 o eiddo Jones, Awel y Grug, Llanarth. Gwerthwyd y fuwch orau am £1,180 o eiddo Jones, Pencraig-peris, Llanrhystud a’r tarw gorau am £1,200 o eiddo Rees, Penlan Noeth, Gorsgoch. Y pris gorau wedyn am fuwch a llo oedd £1,420 o eiddo Davies a’i feibion, Waunllannau, Ffynnonddrain.
Dywedodd Dai Davies yr arwerthwr “Hoffem ganmol y ffermwyr a diolch iddynt am sioe dda o dda stôr. Dengys y mart yn Llanybydder nad oes angen mynd yn bell i werthu gwartheg a chael pris uchel.”
Dymuna Evans Bros ddiolch i’r prynwyr a’r gwerthwyr am eu cefnogaeth.
Cynhelir y Ffair Santesau nesaf mewn pythefnos ar y 24ain Hydref. Mae bron i ddau gant wedi cofrestru’n barod a gofynnir i bawb arall sydd â diddordeb i gofrestru’n gynnar.