Ymhlith pobl sydd wedi arwain y frwydr yn erbyn coronafirws ac wedi gweithio i helpu eu cymuned mae’r Hybarch Eileen Davies ar y rhestr o’r rhai a anrhydeddir yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines eleni.
Mae’r Hybarch Rachel Hannah Eileen Davies. Sylfaenydd Tir Dewi yn derbyn yr MBE am wasanaeth i Ffermio yng Ngorllewin Cymru.
Ganwyd Eileen yn Aberduddwr, Llanllwni, fferm deuluol, ac ar ôl priodi â Dyfrig Davies ym 1990, daeth yn bartner yn y fferm deuluol yn Gwndwn, Llanllwni, lle mae’n parhau i ffermio gyda’i gŵr a’i mab, Owain.
Mae’n fferm gymysg 300 erw lle maent yn godro 75 o fuchod pedigri Holstein ac maent hefyd yn cadw 200 o famogiaid bridio masnachol.
Mae hi’n gyn-aelod ffyddlon a llwyddiannus o Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Sir Gâr a mynychodd CFfI Llanllwni lle bu’n gadeirydd clwb rhwng 1984 a 1985.
Hefyd gwasanaethodd fel ysgrifennydd clwb a thrysorydd y clwb ac yn ddiweddarach daeth yn arweinydd clwb ymroddedig ac yn fwy diweddar roedd yn llywydd y clwb.
Yn ystod ei chyfnod fel aelod o’r CFfI, cafodd Eileen lwyddiant mawr ar lefel sirol, Cymru a chenedlaethol mewn amrywiaeth o gystadlaethau fel trefnu blodau, barnu stoc, siarad cyhoeddus, drama ac hanner awr adloniant.
Yn 1985, daeth yn forwyn ac ym 1989 gwasanaethodd fel brenhines sir eithriadol o weithgar.
Y flwyddyn ganlynol oherwydd ei hymrwymiad, enwebwyd Eileen yn gadeirydd y sir ac enillodd barch mawr yn ystod ei blwyddyn yn y swydd.
Yn 2001, er ei bod eisoes yn brysur, penderfynodd Eileen ddod yn offeiriad rhan amser ac ar ôl astudio am dair blynedd fe’i hordeiniwyd yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn 2005.
Rhwng 2004 a 2008 gwasanaethodd fel Curad yn Llanbed a Llanddewi Brefi. Yn 2005 fe’i hetholwyd yn gydlynydd gwledig esgobaeth Tyddewi. Yn 2008, enillodd y radd Baglor mewn Diwinyddiaeth ac o hynny bu’n ficer llawn amser yn eglwysi Llanerchaeron, Ciliau Aeron, Dihewyd a Mydroilyn.
Yn 2012, daeth Eileen yn Ganon anrhydeddus yn esgobaeth Tyddewi ac yn 2014 daeth yn Ganon llawn amser swyddogol yn yr esgobaeth.
Yn 2015 yn enw esgobaeth Tyddewi, sefydlodd Eileen Davies “Tir Dewi”, menter sy’n ceisio darparu clust i ffermwyr lleol sy’n wynebu heriau modern, a’i nod yw darparu cefnogaeth ac arweiniad iddynt i’w helpu trwy’r amseroedd anodd. Mae “Tir Dewi” wedi ehangu o’r sylfaen y gosododd Eileen yn hen siroedd Dyfed a bellach yn cynnig gwasanaeth i ffermwyr ym Mhowys a Gwynedd hefyd.
Fe’i derbyniwyd yn gymrawd Cymdeithas Amaethyddol Brenhinol (FRAgS) yn 2018.
Ordeiniwyd Eileen yn un o archddiaconiaid esgobaeth Tyddewi yn 2019 gan gynorthwyo’r esgob yn ei harweinyddiaeth. Ymhlith ei dyletswyddau hefyd mae’n gyfrifol i raddau helaeth am ofal adeiladau eglwysig a chefnogaeth fugeiliol ac ymarferol clerigwyr a’u teuluoedd.
Wrth ymateb i’r anrhydedd, dywedodd Eileen ”Braint yw derbyn yr anrhydedd ar ran holl wirfoddolwyr Tir Dewi ac amaethwyr diwyd de orllewin Cymru. Iddynt hwy mae’r diolch.”
Danfonwn ein llongyfarchiadau cynnes i Eileen gan ddiolch iddi am ei holl waith yn y gymuned.