Eisteddfod Capel y Groes…ar lein!

gan Luned Mair

Yn anffodus, ni fydd Eisteddfod Capel y Groes yn cael ei chynnal eleni yn ei dull arferol. Ond na phoener – bydd Eisteddfod ’leni yn cael ei chynnal ar-lein gyda phob math o gystadlaethau i blant o dan 12!

Bydd angen i gystadleuwyr anfon fideo ohonyn nhw yn canu neu yn adrodd unrhyw ddarn at Eisteddfod Capel y Groes ar Facebook messenger, a bydd pob fideo yn cael ei ddangos ar wefannau cymdeithasol yr Eisteddfod a’r tri buddugol yn cael eu dangos ar sianel YouTube Clonc360.

I blant Cyfnod Sylfaen, y dasg gelf yw creu collage ar y thema ‘Y fferm’, tra bod angen i blant Cyfnod Allweddol 2 greu poster i hysbysebu Eisteddfod Capel y Groes 2021. Os oes chwant ysgrifennu cerdd neu stori, y testun ar gyfer y Cyfnod Sylfaen yw ‘Fy hoff degan’ a ‘Gwyliau’ ar gyfer rheiny yng Nghyfnod Allweddol 2. Os am gystadlu, anfonwch eich darn ysgrifenedig neu lun o’r darn celf at eisteddfodcapelygroes@outlook.com. Bydd y tri buddugol yn cael eu cyhoeddi ar wefan Clonc360.

Enfys Hatcher Davies ac Elin Haf Jones fydd â’r swydd anodd o feirniadu’r holl gystadlaethau. Bydd tystysgrif arbennig i’r tri sy’n dod i’r brig ymhob categori.

Mae mwy o fanylion am bob cystadleuaeth ar safle Facebook (@Eisteddfod Capel y Groes) a Twitter (@CapelyGroes) yr Eisteddfod.

Mae croeso i bawb gystadlu o ardal Llanbed, Cymru…neu’r byd!

R’yn ni’n gobeithio y bydd talentau ein plant a’n pobol ifanc yn help i rannu tamed bach o lawenydd yn y cyfnod rhyfedd iawn hwn.