Bu farw Gweinidog Brondeifi yn 59 oed

Pawb mewn sioc o glywed am farwolaeth y Parchedig Alun Wyn Dafis.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Y Parchedig Alun Wyn Dafis yng Nghapel Brondeifi. Llun gan Nia Wyn Davies.

Taenwyd cwmwl o dristwch dros ofalaeth Capel Undodaidd Brondeifi, Llanbed ddoe gyda’r newyddion bod y Parchedig Alun Wyn Dafis wedi marw yn 59 oed.

Bu’n anhwylus yn ddiweddar a threuliodd gyfnod yn Ysbyty Bronglais, ond bu farw’n dawel yng nghwmni ei ddwy ferch Ffion a Branwen yn ei gartref yng Nghei Newydd.

Roedd yn weinidog ym Mrondeifi ers pum mlynedd wedi ymddeoliad y Parchedig Goronwy Evans, ac roedd yn uchel iawn ei barch gan yr aelodau.  Cyflwynodd arddull gyfoes i’w wasanaethau a sefydlodd fand lle roedd ef yn canu’r allweddellau.  Daeth y band yn adnabyddus mewn oedfaon a chymanfaoedd dros y blynyddoedd diwethaf.

Hywel ac Alun yn chwarae ym Mand Brondeifi. Llun gan Nia Wyn Davies.

Un o aelodau Brondeifi yw Hywel Roderick sy’n ddrymiwr ym Mand Brondeifi.  Dywedodd Hywel “Roedd e’n berson tawel, diymhongar ac annwyl iawn. Ond wrth ei adnabod roedd y person hynod alluog, gwybodus ac amryddawn mewn amryw o feusydd yn amlygu ei hun.  Cerddor naturiol oedd wrth ei fodd yn chware.  Cofia nifer o bobl iddo fod yn rhan o’r band poblogaidd Off White hefyd.”

Roedd Alun Wyn yn dilyn ei dad y Dr. D. Elwyn Davies wrth gyfansoddi emynau a gyhoeddwyd yn y Perlau Moliant.  Mae ei fam, Dorothy dal yn byw yn ardal Abertawe.  Ond collodd ei wraig Karen i gancr chwe mis yn ôl.

Dros y blynyddoedd bu’n weinidog yng Nghapel y Cwm Cwmsychpant, Capel y Bryn Cwrtnewydd, Capel Alltyblaca, Capel y Graig Llandysul, Capel Pantydefaid Prengwyn, Capel Llwynrhydowen Rhydowen a Chapel y Fadfa, Bwlchyfadfa.  Bu’n rhedeg busnes y Bwytai Thai oedd ganddo hefyd yn Aberaeron a Chei Newydd.

Rydym yn meddwl am aelodau a chymuned Brondeifi sydd wedi colli bugail da ac yn cydymdeimlo’n ddiffuant â’r teulu.