Gwerthwyd 650 o dda stôr o ffermydd lleol yn Ffair Santesau Mart Llanybydder ddydd Sadwrn. Roedd ansawdd y gwartheg o’r safon uchaf a’r cyfan yn gwerthu am brisau da.
Cafwyd y prisau gorau i’r ddau gyntaf yn y cylch gwerthu o eiddo Thomas, Maesymeillion, Llanybydder. Gwerthwyd yr eidon gorau am £1,490 yr un a’r anner orau am £1,470. Gwerthwyd y fuwch hesb orau am £1,120 o eiddo Ryder, Tyngrug Ganol, Cwmsychpant.
Dywedodd Mark Evans yr arwerthwr “Hoffem ddiolch i’r ffermwyr i gyd am ein cefnogi heddiw a thrwy’r flwyddyn, a llongyfarchiadau iddyn nhw i gyd am gynhyrchu stoc o safon uchel. Gyda chwe chant a hanner o dda, mae ishe lot o brynwyr arnon ni a chwarae teg iddyn nhw, maen nhw gyda ni’n ffyddlon o un mis i’r llall.”
Cynhelir y Ffair Fartin nesaf mewn tair wythnos. Mae llawer wedi cofrestru’n barod a gofynnir i bawb arall sydd â diddordeb i gofrestru’n gynnar.