Gwella adnoddau cymunedol Llanfair Clydogau

Gyda grant y Loteri, mae trigolion Llanfair yn ehangu ar ddefnydd posib y neuadd.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Gosodwyd drws newydd a wnaed yn arbennig i Neuadd Bentref Llanfair Clydogau heddiw. Mae’n waith hyfryd, gan y crefftwr lleol Peter Wakeman.

Dywedodd Alan Leech “Mae’n ddarn gwych o waith ac mae’n ychwanegu at welliannau’r neuadd yr ydym wedi bod yn ymgymryd â nhw ers cryn amser.”

Mae Peter Wakeman wedi byw yng nghanol Llanfair ers sawl blwyddyn. Mae ganddo sgiliau uchel iawn mewn gwaith coed ac mae’n gwneud llawer o waith saer yn yr ardal.

Ychwanegodd Alan “Gwnaethom gais am grant Loteri Fawr i ariannu gwelliannau yn y neuadd ar ôl cynnal arolwg o’r hyn yr oedd pobl yn teimlo oedd ei angen.”

”Roedd yn rhan o fenter a wnaethom i geisio cynyddu nifer y gweithgareddau cymunedol. Cawsom grant o ychydig llai na £10,000. Mae hynny wedi caniatáu gosod boeler ynni effeithlon newydd, tanc olew newydd, gwell storfa, drws ffrynt a gorchuddion llawr newydd. Rydym yn bwriadu gwella’r maes parcio hefyd.”

Llongyfarchiadau i bobl Llanfair am eu gweledigaeth.  Cynhelir llawer o weithgareddau yn y neuadd fel arfer ac estynnir croeso cynnes i bawb.  Mae bwrlwm pentrefol hyfryd yn perthyn i’r lle.  Gobeithia’r trigolion y gellir cynyddu ar hyn wedi cyfnod ansicr y Coronafeirws.