Cyhoeddwyd nos Sul bod Gwesty Cross Hands Llanybydder yn cau tan y 4ydd o Ragfyr.
Mae’r neges ar facebook yn dweud “Fel mesur rhagofalus bydd y Cross ar gau tan 4ydd Rhagfyr gan fod aelod agos o’r teulu wedi profi’n bositif am Covid-19.”
Dros y blynyddoedd diwethaf adnewyddwyd y Cross Hands yn dafarn gyfoes a chartrefol, ac er cyfyngiadau Coronafeirws eleni, roedd dal yn galon y pentref.
Ailagorwyd y Cross Hands wedi’r cyfnod clo dros dro ar y 9fed o Dachwedd a darparwyd ciniawau rhost, cludfwyd a dangos gemau rhyngwladol.
Mae’n gyfnod anodd iawn i dafarnau, a bydd hi’n rhyfedd i weld drysau’r Cross Hands ar sgwâr uchaf yn Llanybydder ar gau am bythefnos eto ar adeg a ddylai fod yn brysur i dafarnau.
Ychwanegwyd mewn neges ar facebook “Mae popeth yn iawn ac rydym yn dilyn cyngor a roddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a rhoi lles ein cwsmeriaid a’n cymuned yn gyntaf.”
Dymunir yn dda i bawb sydd wedi eu heffeithio a gofyn i bawb gymryd gofal.