Ti’m yn gyfarwydd â bod ar bwys pishyn mor dwym â fi!

Amaethwr ifanc a diddanwr gonest o Lanllwni yn rhannu cyfrinachau diddorol â darllenwyr Clonc.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Owain Davies

Owain Davies yr amaethwr ifanc a’r adroddwr digri o Lanllwni sy’n ateb cwestiynau ‘Cadwyn Cyfrinachau’ Papur Bro Clonc y mis hwn.

Er nad yw ei frawddeg bachu “Ti‘m yn gyfarwydd â bod ar bwys pishyn mor dwym â fi!” wedi gweithio hyd yn hyn, awgryma y byddai ffeindio gwraig iddo yn dipyn o her i ddarllenwyr Clonc.

Petai’n fisged, byddai’n ‘Custard Cream’- tipyn o hen ffefryn er yn hen ffasiwn a ddim yn ffansi. Gall fod bach yn sych ar yr ochr fa’s ond mae iddo ganol meddal a melys.

Mae Owain yn hoff o gymryd rhan yng ngweithgareddau mudiad y ffermwyr ifanc ac wrth ei fodd yn perfformio. Mae’n siaradwr cyhoeddus profiadol a dywed ei fod yn ddigon dwl i fod yn rhan o gast Pantomeim blynyddol Cwmni Actorion Theatr Felin Fach bob Rhagfyr.

Pwy sy’n ddylanwad arno? Am beth y mae’n breuddwydio amdano?  Beth oedd yr eiliad a newidiodd ei fywyd?  Ceir atebion i’r cwestiynau hyn a llawer iawn mwy yn rhifyn mis Mai Papur Bro Clonc.  Gellir lawrlwytho copi am ddim o wefan Clonc.

Mae Owain yn gymeriad ei filltir sgwâr, yn berson ifanc diddorol a diymhongar iawn ac yn credu yn y gwerthoedd traddodiadol.  Diolch iddo am rannu ei gyfrinachau â ni ac am ein gwneud ni i chwerthin ar adeg digon ansicr i bawb.