Y Coronafeirws a ni yn yr ardal hon.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Gorchmynion ar ddrws Meddygfa Taliesin i beidio mynd mewn os ydych yn dioddef o Goronafeirws.

Cyhoeddwyd heddiw bod un achos o Goronafeirws COVID-19 yng Ngheredigion, ac mae’r bygythiad a oedd mor bell i ffwrdd rhai wythnosau nôl bron ar drothwy ein drws ni erbyn hyn.

Ceir neges sobor iawn gan Elin Jones ein Aelod Cynulliad a Llywydd y Cynulliad.  “Mae yna fisoedd anodd o’n blaenau, ac mae’n sicr y cawn ni ein profi fel unigolion ac fel cymdeithas. Yn y cyfnod hwn, rhaid i ni fod yn ofalus ohonom ein hunain, ac yn ystyriol o eraill.”

Ychwanegodd Elin “Hoffwn annog pawb i ddilyn y cyngor arbenigol, ac i geisio hwnnw trwy ffynonellau iechyd cyhoeddus yn unig. Os oes gan unrhywun symptomau’r coronafeirws, y peth gorau i’w wneud yw i edrych ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.  Peidiwch â mynd at eich meddyg teulu nag unrhyw adran achosion brys.”

Pwysleisiodd Elin “Fe fydd staff ein gwasanaethu iechyd i gyd o dan straen sylweddol wrth iddynt weithio i’n gwarchod ac achub bywydau.  Fe fydd nifer o unigolion, teuluoedd a busnesau yn wynebu anawsterau ariannol dros y misoedd nesaf, a bydd hynny yn ofid ychwanegol.”

Y silffoedd yn wag yn Co-op Llanbed heddiw wedi i gwsmeriaid brynu mewn panig.

Mae bygythiad y Coronafeirws wedi cael effaith ar fywyd cymdeithasol yr ardal ac o bosib yn mynd i gael effaith ar fusnesau lleol a bywyd teuluol.

Mae yna ddigwyddiadau wedi eu canslo fel Cyfarfod Cymdeithas Hanes Llanbed nos Fawrth, Cyfarfod Cymdeithas Ddiwylliadol Bethel Parc-y-Rhos nos Lun, Cyfarfod Rali Llanwenog nos Fawrth a Noson Ymwybyddiaeth Llyfrau Llafar Cymru yn Llanllwni nos Iau ymhlith eraill.

Un o gryfderau’r ardal hon yw’r holl ddigwyddiadau a gynhelir yn lleol ac mae salwch fel y Coronafeirws yn amharu ar bob gweithgarwch ac yn trawsnewid bywyd cymdeithasol yn llwyr.  Ond dyma sy’n rhaid i ni aberthu er mwyn ynysu’r haint.

Mae swyddogion Neuadd Bentref Llanfair Clydogau a Neuadd Mileniwm Cellan ar y llaw arall wedi penderfynu parhau â’u digwyddiadau ac yn gadael defnyddwyr unigol i wneud penderfyniadau i ganslo neu beidio mynychu.  Mae nosweithiau ffilm yn Neuadd Mileniwm Cellan wedi eu canslo am y tro.

Serch hynny, gallwn weld cymunedau yn tynnu at ei gilydd mewn amserau anodd fel hyn ac mae ymdrechion grŵp cymunedol yn Silian i’w canmol.

Dywed cyhoeddiad ar facebook “Os ydych chi’n byw yn Silian ac yn hunan-ynysu, efallai y bydd angen help arnoch i gasglu siopa, presgripsiynau neu eitemau hanfodol eraill. Efallai y bydd angen galwadau ffôn dyddiol ar rai pobl gan eu bod ar eu pennau eu hunain a heb unrhyw gyswllt.”

“Os ydych chi mewn categori nad yw’n agored i niwed ac o bosibl yn gallu helpu i gyflenwi hanfodion neu ddim ond cadw mewn cysylltiad â phobl leol mewn angen, cysylltwch â ni. Gadewch i ni edrych ar ôl ein gilydd, a chofiwch nad ydych chi ar eich pen eich hun!“

Does dim unrhyw fath o bapur tŷ bach ar ôl yn Co-op Llanbed.

Gyda silffoedd archfarchnadoedd lleol yn wag, beth am brynu mewn panig mewn siopau lleol?  Mae nifer o berchnogion busnesau lleol yn poeni pa effaith y caiff Coronafeirws arnyn nhw. Prynwch yn lleol, a pharhewch i wneud hynny.

Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant newydd gyhoeddi ei bod yn gohirio dysgu yn y dosbarth am y tro. Bydd pob Athrofa yn rhoi mwy o wybodaeth ynglŷn â sut y byddant yn cyflwyno’r rhaglenni. Mae adeiladau’r Brifysgol yn parhau ar agor gan gynnwys y llyfrgelloedd.

Mae hyn yn newyddion da o ran ceisio rhwystro’r haint rhag lledu yn lleol, ond yn ergyd arall i’r ecomoni os yw’n golygu llai o fyfyrwyr yn y dref.

Mae geiriau Elin Jones felly mor bwysig “Fe fydd bywyd yn newid i ni i gyd dros yr wythnosau sydd i ddod. Gadewch i ni fod mor amyneddgar a resymol ag sy’n bosib. Gadewch i ni ofalu am ein gilydd, yn arbennig y rheiny sydd yn fregus, yn oedrannus ac yn unig. Gyda’n gilydd gallwn ddelio gyda hwn. Byddwch yn ofalus, a byddwch yn garedig.”