Cynhaliwyd etholiadau undebau myfyrwyr ym mhrifysgolion Cymru yr wythnos ddiwethaf ac roedd nifer o bobl ifanc yr ardal hon yn ymgeiswyr.
Mae llywyddion newydd y ddwy Undeb Gymraeg yn ffrindiau agos o ardal Llanbed.
Llywydd newydd UMCB (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor) yw Iwan Evans o Flaencwrt. Mae’n fyfyriwr y drydedd flwyddyn yn astudio Dylunio a Thechnoleg ac Addysg Uwchradd ym Mhrifysgol Bangor. Enillodd yr etholiad ddydd Gwener o fewn 22 pleidlais. Mae Iwan yn dilyn ôl traed cyn lywyddion UMCB eraill o’r ardal, pobl ifanc dylanwadol fel Gethin Morgan a Guto Gwilym.
Morgan Lewis (neu Moc) o Gwmann yw Llywydd newydd UMCA (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth). Mae Moc yn fyfyriwr y drydedd flwyddyn hefyd ac yn astudio Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth. Enillodd yr etholiad ddydd Gwener o fewn 51 pleidlais.
Bu Iwan a Moc yn gyd ddisgyblion blaengar yn Ysgol Bro Pedr ac yn gyd chwaraewyr yn Nhîm Rygbi Ieuenctid Llanbed.
Blwyddyn fawr i’r ddau felly gan arwain bywyd diwylliannol Cymraeg a lles myfyrwyr Cymraeg yn y ddwy brifysgol. Pob lwc iddynt.
Cyn ddisgybl arall o Ysgol Bro Pedr a lwyddodd mewn etholiad ym Mhrifysgol Abertawe yw Alpha Evans o Gwmann. Cafodd ei hethol fel Ysgrifennydd Cyffredinol i’r Undeb Myfyrwyr. Mae’n fyfyrwraig yr ail flwyddyn yn astudio Cymraeg. Dymuniadau gorau iddi hi hefyd.