Gwr bonheddig – Colled mawr x
Bu farw Oriel Jones, yn ei gartref yn Llanfihangel-ar-arth yn 89 oed ar y 6ed o Fai.
Rhoddodd bentref Llanybydder ar y map drwy sefydlu lladd-dy llewyrchus yma a oedd yn adnabyddus am gyflenwi prif archfarchnadoedd y wlad a thu hwnt.
Roedd yn ddyn teulu hoffus, yn ddyn busnes craff, yn ŵr bonheddig ac yn gefnogwr brwd i bopeth lleol.
Ar ôl cael ei eni yn Llangeithio ym 1930, treuliodd Oriel ei blentyndod cynnar yn Llundain, gan ddychwelyd i fferm ei ewythr Jac yn Llanybydder pan ddechreuodd y rhyfel. Yma y dechreuodd ei ddiddordeb mewn cigyddiaeth a ffermio.
Yn 21 oed, cychwynnodd Oriel ei rownd gig ei hun a dechrau delio â da byw. Yna prynodd dyddyn bach ar gyrion y pentref, lle dechreuodd ladd anifeiliaid yn yr hen ysgubor, gan gyflenwi siopau cigydd lleol. Yna aeth ymlaen i gyflenwi’r cynnyrch Cymreig gorau i farchnad Smithfield yn Llundain.
Ym 1978 cwblhawyd lladd-dy pwrpasol newydd yn Llanybydder a chafwyd trwydded allforio ddeng mlynedd yn ddiweddarach. Bu mab Oriel, sef Barry yn cyd redeg y cwmni hefyd am flynyddoedd.
Erbyn diwedd yr 80au roedd y lladd-dy lleol yn prosesu mwy na 5000 o ŵyn y dydd. Yn 2001 prynwyd Oriel Jones & Son Ltd gan gwmni Dunbia.
Fodd bynnag, arhosodd Oriel yn flaengar ym maes amaethyddiaeth yng Nghymru ac roedd yn falch o fod yn rhan o ddiwydiant mor fawreddog, gan ymgymryd â swyddi fel Cadeirydd Ffederasiwn Cyfanwerthwyr Cig Ffres, Cadeirydd Cyngor Dosbarth Sir Gaerfyrddin a Chymrawd Cyngor Gwobrau Cymdeithasau Amaethyddol Brenhinol.
Derbyniodd Oriel MBE hefyd am ei wasanaethau i amaethyddiaeth a’r hyn a roddodd y boddhad mwyaf iddo yn y blynyddoedd diwethaf oedd gweld ei ŵyr Shaun yn agor cigydd a siop gig gyfoes yn y brif ddinas gan barhau â’i enw – Oriel Jones i gwsmeriaid newydd a chynnal safonau uchel yn cyflenwi cig o Gymru. Mae’r cigydd ym Nhreganna a siop gig ym Mhontcanna, Caerdydd.
Mae e’n gadael gwraig ac roedd yn dad, llys dad, tad-cu ac yn hen dad-cu annwyl. Cydymdeimlir yn ddiffuant â’r teulu oll gan ddiolch am fywyd gŵr a gyflogodd gannoedd o bobl yn lleol dros y blynyddoedd.