Parêd Gŵyl Dewi Llanbedr Pont Steffan

Ann Bowen Morgan
gan Ann Bowen Morgan

Tywynnodd yr heulwen a chafwyd ymateb anhygoel i Ddathliadau Gŵyl Dewi yn Llambed Ddydd Sadwrn.

Arweiniwyd yr Orymdaith gan Anwen Butten, y Maer a’r Faeres a Tryfan bach. Yn dilyn roedd Elin Jones – Llywydd y Cynulliad a Ben Lake (AS) a Chyngor y Dref.

Roedd Cymdeithasau’r cylch a theuloedd y cylch wedi troi allan yn llu. Croesawyd ymwelwyr y Cynllun Gefeillio o Ffrainc a ymunodd gyda ni. Daeth Mr Frith y trympedwr i arwain y canu o flaen Côr Cwmann.

Yn dilyn yr Orymdaith cafwyd sesiwn bywiog gan Siani Sionc yn Neuadd Buddug a’r plantos wrth eu bodd. Diolch i Ferched y Wawr am weithio’n galed yn paratoi paned i bawb a hefyd i bawb gyfrannodd Bice Bach a bisgedi.

Arweiniwyd yr ail sesiwn gan ein Maer, Rob Phillips.  Canwyd caneuon gan Gôr Cwmann a mwynheuwyd y canu gan bawb.

Cyflwynwyd Anwen Butten ein prif dywysydd i ni a siaradodd yn arbennig. Enillwyd gwobr y ffenest orau gan Gaffi Mark Lane a derbyniodd Elfan y wobr o darian y Cyngor Tref.

Diolch i’r Pwyllgor am eu trefniadau.