Cyhoeddwyd heddiw yn anrhydeddau blwyddyn newydd y Frenhines bod y Parchedig Goronwy Evans, Llanbed yn mynd i gael ei anrhydeddu â’r MBE.
Mewn ymateb ar facebook, cafwyd nifer o negeseuon yn ei longyfarch a’r hyn oedd yn gyffredin yn y negeseuon oedd bod pawb yn credu ei fod yn llawn haeddu’r anrhydedd.
Pwysleisia Goronwy fod yr anrhydedd hon i Beti ei wraig yn ogystal a phawb a fu’n rhan o bwyllgorau codi arian dros y blynyddoedd ac i bawb a gyfrannodd mor hael. Ymhlith yr ymgyrchoedd codi arian y bu Goronwy a Beti yn rhan flaenllaw ohonynt oedd Plant Mewn Angen.
Wrth ei holi heddiw, dywedodd Goronwy “Wi’n perthyn i’r Undodiaid a ffordd o fyw yw Undodiaeth. Rhaid mynd mas i ganol y bobl a bod yn rhan o’r gymuned.”
Bu Goronwy yn weinidog yng Nghapel Brondeifi, Llanbed am dros hanner canrif, ac eleni am y tro cyntaf yng nghanol pandemig bu’n rhannu ei fyfyrdodau ar facebook. “Roedd hynny yn deimlad hyfryd,” meddai “wi’n gallu cael yr hyn wi am drosto i’r bobl a chadw cysylltiad, a hwythau’n ymateb.”
Un o gyfraniadau mwyaf Goronwy oedd ei waith fel ysgrifennydd Eisteddfod Rhys Thomas James Pantyfedwen Llanbed dros y blynyddoedd.
Eleni hefyd y cyhoeddodd Goronwy lyfr newydd am y crwydriaid “Ar Grwydir Eto” ac er gwaethaf y clo mawr, dywedodd fod y llyfr wedi gwerthu’n dda.
Bu Nadolig eleni yn wahanol iawn i Goronwy a Beti fel pawb arall. Dywedodd Goronwy “Nôl i’r hen arfer o Nadoligau, dim ond ni’n dau, ond wedi cael facetime gyda’r teulu.”
Gwrandewch ar gyfweliad arbennig Clonc360, a llongyfarchiadau mawr i’r ddau ohonyn nhw.