Gwerthwyd 300 o dda stôr ym marchnad Nadolig Llanybydder ddydd Sadwrn. Roedd safon y da yn arbennig ac roedd y prisiau yn adlewyrchu hyn.
Roedd amryw o wobrau ar gael a enillwyd gan y canlynol:
T Jenkins, Caerodyn – eidon orau;
I Lewis, Gwarcoed Einon – aner orau;
C Lewis Gwarcoed Einon – ennilydd adran y CFfI;
Hoffai Evans Bros ddiolch i Rhodri Davies o fferm Rosedew, Llanilltud Fawr am feirniadu’r stoc ac hefyd i bawb wnaeth noddi’r dosbarthiadau.
Prisiau’r dydd:
Eidonau i fyny at £1575;
Aneirod i fyny at £1560;
Buchod a lloi i fyny at £1520;
Gwartheg baren i fyny at £1030;
Teirw i fyny at £1045.
Bydd y sêl nesaf yn cael ei chynnal ar y 9fed o Ionawr a gofynnir i bawb sydd am werthu i gofrestru eu stoc gynted ag sydd yn bosib.
Mae Evans Bros yn dymuno Nadolig Llawen a blwyddyn newydd dda i bawb a diolch am bob cefnogaeth dros y flwyddyn. Cadwch yn iach ac edrychwn ymlaen at eich gweld yn 2021.