Cau tafarn am dorri rheoliadau’r coronafeirws

Bydd y dafarn yn Llanbedr Pont Steffan ar gau hyd at ddiwedd y mis

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae hysbysiad cau wedi cael ei roi i Westy’r Castell, Llanbedr Pont Steffan oherwydd diffyg cydymffurfiaeth â rheoliadau’r coronafeirws.

Daw hynny, wedi ymchwiliad gan swyddogion Tîm Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor bod y safle wedi methu:

  • cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau y cedwir pellter o 2 fetr rhwng pobl ar y safle
  • sicrhau nad oes hawl gan bobl nad ydynt o’r un aelwyd ymgynnull mewn grwpiau o fwy na 4 person
  • cyfyngu ar ryngweithio wyneb yn wyneb agos rhwng pobl a chynnal arferion hylendid, sy’n cynnwys methu â newid cynllun y fangre, rheoli’r defnydd o seddi, rheoli a chyfyngu ar y defnydd o goridorau, toiledau a mynedfeydd,
  • casglu gwybodaeth gyswllt ddilys

Bydd yr hysbysiad yn dod i rym yn syth ddydd Llun, 16 Tachwedd 2020, ac yn parhau tan 30 Tachwedd 2020.

Mae modd gweld yr hysbysiad cau yn llawn o dan Hysbysiadau Gwelliant a Chau fan hyn.