Cyd-addoli ar Zoom

Ni allwn bellach ddychmygu bod heb Zoom.

Rhys Bebb Jones
gan Rhys Bebb Jones

Blwyddyn yn ôl prin ‘roeddwn wedi clywed am Zoom. Ni allaf bellach ddychmygu bod hebddo! Defnyddiaf bron yn ddyddiol ac yn arbennig ar y Sul. Mae’n fy ngalluogi i ymuno mewn oedfaon lleol megis rhai Cylch Bedyddwyr Gogledd Teifi, Gofalaeth Caron (Eglwys Bresbyteraidd Cymru – EBC) a Chapel Bethel (Annibynwyr) Parc-y-rhos ger Cwmann. Caf hefyd ymuno ag oedfaon y tu hwnt i’m milltir sgwâr megis rhai Gofalaeth Pwllheli (EBC) ar nos Sul.

Oni bai am Zoom, byddwn hefyd yn colli’r cyfle i ymuno gydag eraill am 12.00 ar brynhawniau Gwener i weddïo ‘dros eraill, ein byd, ein hunain’. Trefnwyd gan EBC i ddod â Christnogion at ei gilydd oddi wrth brysurdeb bywyd a’n byd helbulus.

Yng ngeiriau’r Parchedig Marcus Robinson, Llywydd Cymanfa Gyffredinol EBC, mae’n ‘gyfle i nifer agosáu at orsedd gras yr un pryd, gan ddyheu i’r Arglwydd weithio’n nerthol yn ein plith’. ‘Rwy’n ymuno tan arweiniad y Parchedig Bryn Williams (Gofalaeth Pwllheli) a chawn gyfle yn ein tro i gyflwyno ein gweddïau. Effaith y coronafeirws ar deulu, ffrindiau a’n cymunedau sydd wedi llywio ein gweddiau’n ddiweddar. Os hoffech ymuno am 12.00 prynhawniau Gwener, cewch mwy o wybodaeth yn erthygl y Parchedig Marcus Robinson yn Y Goleuad, rhifyn Tachwedd 6, 2020, tudalen 7.

Mae Zoom hefyd yn caniatáu i mi ymuno’n wythnosol yn Astudiaeth Feiblaidd Gofalaeth Caron tan arweiniad y Parchedig Carwyn Arthur ac yn fisol yn y Dosbarth Pregethu arweinir gan y Parchedig Bryn Williams. Mae cyfle hefyd i ymuno ar Zoom yn Ionawr, Chwefror a Mawrth mewn cyfres o astudiaethau ar Salm 23 dan y teitl ‘Dewch at y Bwrdd’:

Cewch mwy o wybodaeth gan Mrs. Sarah Morris – ei chyfeiriad e-bost yw sarah.morris@ebcpcw.cymru

‘Rwy’n meddwl bod cerdd Casia Wiliam, ‘Duw ar Zoom’, yn cyfleu’n drawiadol sut yr ydym yn parhau i addoli yn y cyfnod presennol:

‘Rhywsut aeth Duw yn ddiarth.

Rhwng y naw tan bump a plant i’w gwlâu a gwaith yn galw

doedd dim lle iddo yn sêt fawr fy mywyd.

Bob hyn a hyn dôi yn ôl yn annisgwyl

wrth i mi lenwi troli, neu lyncu’r Ê ffôr sefnti

ond wastad â chymun o euogrwydd

am beidio twyllu ei dŷ cyhyd.

Ond rŵan, a ninnau yng nghanol

y tywyllwch tywyllaf,

dyma fo, ar fy nglin,

lond y sgrin,

lond y gegin.

Duw ar Zoom.

A ffasiwn sinig, mi daerwn y byddwn

wedi mynd am y groes yn syth,

ond na, arhosais ennyd

i glywed adnod,

i geisio ei lais eto,

i weld os medrwn estyn croeso iddo

yn fy nhŷ fy hun.

Ac yn lle’r festri oer a chwech yn gwmni

dyma lond y we o gwmpeini;

a dros goffi,

mewn pajamas,

yn ein gwlâu ella,

daeth y ne’ atom ni.

O dro i dro,

rŵan ei bod hi’n dechra g’leuo,

wrth i mi osod bwrdd neu

hel llestri brecwast,

mewn eiliad o heddwch,

mi ga i ryw air bach efo fo

a mae o’i weld ddigon bodlon

i ni gwrdd fel hyn,

yn bytiog rhwng prydau,

a minnau heb ddim byd am fy nhraed.’