Apêl i achub Siop a Swyddfa Bost Llanfair Clydogau

Galw am gyfarfod i weld beth yw barn pentrefwyr ynglyn â dyfodol calon y pentref.

gan Dan ac Aerwen

https://llanfairshop.co.uk/

Mae Jean ac Al o’r siop a’r Swyddfa Bost yn Llanfair Clydogau yn ymddeol ar ôl dros 30 mlynedd o wasanaeth i gymuned hyfryd y pentref.

Rydym i gyd yn gobeithio y bydd prynwr yn dod ymlaen yn glou, fel arall byddwn yn colli ein siop a’n Swyddfa Bost hynod werthfawr a fydd yn golled enfawr i’n pentref.

Mae Jean wedi cyflwyno ei rhybudd i’r Swyddfa Bost gan fod angen iddi roi tri mis o rybudd ac mae’n debyg y bydd yn rhaid iddi adael i’r siop ddychwelyd yn ôl i fod yn dŷ er mwyn gwerthu.

Mae pawb yn cydymdeimlo â hi ac yn gwerthfawrogi bod angen iddi symud ymlaen gyda’i bywyd ac mae hi mor drist nad oes neb wedi camu i’r adwy i brynu’r eiddo. Ar ôl i Jean gyflwyno ei rhybudd, mae’n annhebygol y bydd y Swyddfa Bost yn parhau yn y pentref.

A oes gan unrhyw un ddiddordeb mewn cyfarfod yn y pentref i drafod sut y gallwn fel cymuned brynu’r lle fel menter gymunedol?  A oes digon o bobl leol yn fodlon buddsoddi arian ac amser er mwyn cyflawni hyn?

Saif yr eiddo mewn llecyn braf ar lan yr afon Teifi ac mae ar werth am £398,500 gan Morgan & Davies.