O ganlyniad i COVID, bu rhaid canslo’r bencampwriaeth llynedd a wedi trafodaeth hir, penderfynwyd canslo’r bencampwriaeth eleni eto. Er mai gêm gyfeillgar oedd hi yn erbyn Cei Newydd, roedd yn werth dathlu’r fuddigoliaeth gyda’r ddwy ‘RINK’ yn ennill, fel medd Melanie Thomas ei fod yn ‘neis i gwrdd lan â chwaraewyr o glwb gwahanol ac i chwarae ar lawnt gwahanol.’ Yn ogystal, cydnabyddwyd bod ‘pawb wedi mwynhau eu gêm a wedi cofio pa mor bwysig yw ochr gymdeithasol y gêm hefyd.’
Mae pencampwriaeth y dynion wedi ailddechrau ers dechrau’r tymor tu allan eleni gyda’r ddau dîm wedi chwarae eu gemau diwethaf ar nos fercher yr 11eg o Awst yn erbyn Aberteifi. Bu’r tîm cyntaf yn chwarae gartref a’r ail dîm yn chwarae oddi-cartref yn Aberteifi. Colli oedd hanes y tîm cyntaf o 56 i 47. Tra bod yr ail dîm wedi ennill o 66 i 56.
Yn ddiweddar, bu llawer o fudiadau lleol yn trio bowlio gan gynnwys Clwb Ffermwyr Ifanc Bro’r Dderi, Ysgol Gynradd Carreg Hirfaen a Chanolfan Deuluol Llanbed, i ysbridoli’r genhedlaeth nesaf. Yn ogystal, mae mudiad Merched Y Wawr Llanbed wedi bod yn defnyddio cyfleusterau lletygarwch y clwb. Dros yr wythnosau nesaf, mae yna lu o dwrnamentiau clwb i’w cynnal.
Hefyd, mae’n werth canmol y clwb am gynhyrchu’r dair bowlwraig, Anwen Butten, Alis Butten a Melanie Thomas sydd wedu eu dewis yng Ngharfan Cymru go gyfer â Gemau’r Gymanwlad flwyddyn nesaf.
Mae’r clwb yn frwdfrydig i groesawu aelodau newydd i’r clwb o bob oed ac i gyflwyno mwy o bobl Llanbed i fowlio lawnt.