Mor mor braf clywed canu byw a gweld perfformiad byw

Elliw Gwarffynnon yn rhan o berfformiad ‘Clera’ gan Arad Goch ar strydoedd Llanbed.

gan Rhiannon Lewis

Roeddwn wedi mwynhau perfformiad ’Clera’ gan Arad Goch ddoe a dilyn y criw o amgylch strydoedd Llanbed.  Roedd hi mor mor braf clywed canu byw a gweld perfformiad byw unwaith eto.  Llongyfarchiadau mawr i’r criw.

Gan na ellir perfformio mewn theatrau eto, mae Cwmni Theatr Arad Goch wedi creu cyfres o berfformiadau bach awyr-agored sy’n digwydd ar draws y sir.

Drwy ddefnyddio chwedlau a hanesion lleol ochr yn ochr â storïau diweddar a newyddion cyfredol mae criw Arad Goch yn cydnabod a dathlu ein hetifeddiaeth yn ogystal â chryfderau a digwyddiadau ein cymuned.

Theatr ‘gudd’ neu ‘pop-up’ yw hon sy’n mynd o’r mynyddoedd i’r môr.  Maent yn dangos pwysigrwydd hanes, diwylliant a chymunedau’r sir drwy ddod ag eiliadau o brydferthwch a diddanwch er mwyn ceisio gwrthwneud rhai o elfennau ynysrwydd a achoswyd gan unigrwydd Covid19.

Gan ddefnyddio storïau, cerddoriaeth, caneuon a dawnsio a gan gydweithio gyda’r bardd Eurig Salisbury a’r coreograffydd Anna ap Robert mae’r actorion yn creu a pherfformio darnau sy’n unigryw i gymunedau Ceredigion.

Braf oedd gallu mwynhau hyn i gyd yn yr awyr agored a chefnogi actores leol dalentog sef Elliw Dafydd o Silian.

Dyma weddill y perfformiadau yr wythnos hon:

Dydd Mercher 14/07 – 2 – 4y.h – Cei Newydd

Dydd Mercher 14/07 – 5 – 6y.h – Llanilar

Dydd Mercher 14/07 – 6:30 – 7:30y.h – Llanfihangel y Creuddyn

Dydd Iau 15/07 – 2 – 3y.h – Talgarreg

Dydd Iau 15/07 – 4:30 – 6:30y.h – Penrhyncoch

Dydd Gwener 16/07 – 3 – 4:30y.h – Aberteifi

Dydd Gwener 16/07 – 5 – 7y.h – Aberteifi

Dydd Sadwrn 17/07 – 12 – 1:30y.h – Henllan

Dydd Sadwrn 17/07 – 2 – 4y.h – Tregaron

Fideo Creative Cove.