Chwaer a brawd yn bencampwyr o Barc-y-rhos

Beca ac Osian yn profi llwyddiant mawr yn y byd athletau ar lefel rhanbarthol a chenedlaethol.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Ar ôl cyfnod heriol o fethu teithio i ymarfer na chystadlu am fisoedd oherwydd Covid-19, roedd Beca ac Osian Roberts o Barc-y-rhos wrth eu bodd yn cael ail-gydio yn eu diddordebau ar y trac athletau yn ystod y Gwanwyn a’r Haf.

Serch hynny, ni fu’r ddau yn segur yn ystod y cyfnod clo ac er nad oeddent yn medru mynychu sesiynau ymarfer, buont yn brysur yn cynorthwyo’u gilydd i ymarfer o gartref ac hefyd yn dilyn sesiynau ‘zoom’ gyda’i hyfforddwr er mwyn ceisio cadw eu lefel o ffitrwydd a chryfder.

Fodd bynnag, er mor ysbrydoledig a manteisiol oedd y sesiynau rhithiol, doedd dim yn debyg i allu mynd nôl i dderbyn hyfforddiant wyneb-i-wyneb pan gododd y cyfyngiadau. Mewn byr o dro, mynychodd y ddau amrywiol gystadlaethau a thalodd yr holl ymarfer ar ei ganfed gan iddynt brofi llwyddiant ar lefel rhanbarthol yn ogystal â chenedlaethol.

Ym mis Awst, bu’r ddau yn cystadlu ym Mhencampwriaeth Iau Cymru, lle daeth Beca yn ail yn y naid-driphlyg ac Osian yn ennill y naid uchel a’r ras clwydi 100 metr. Torrodd y ddau eu record bersonol flaenorol, gyda Beca’n neidio 11.33 metr ac Osian yn clirio 1.95 metr gyda’i naid uchel.

Ychydig wythnosau yn dilyn hyn, aeth Beca ymlaen i ddod yn y drydedd safle ym Mhencampwriaeth Hŷn Cymru.

Ar ddechrau mis Medi, gwahoddwyd Osian yn un o wyth dros Wledydd Prydain i gymryd rhan yn y naid uchel yn yr ‘UK School Games’ yn Loughborough.  Cyfeirir at y gystadleuaeth hon fel y ‘mini Olympics’ gyda nifer o gyn-gystadleuwyr wedi mynd ymlaen i gystadlu yn y gêmau Olympaidd.

Gyda phroffil uchel y gystadleuaeth, teimlodd Osian hi’n anrhydedd i gael y gwahoddiad i fod yn bresenol.  Bu’n benwythnos cofiadwy iddo ac yn brofiad arbennig o gael cymdeithasu gydag athletwyr eraill o Gymru, yr Alban, Iwerddon a Lloegr.

I goroni’r cyfan, bythefnos yn ddiweddarach, dilynodd Osian ôl traedei chwaer gan ennill ei fest gyntaf dros Gymru trwy gymryd rhan yng nghystadleuaeth SIAB yn Derby.  Ef oedd yr ieuengaf o’r grŵp o wyth cystadleuydd yn y naid uchel, gyda’r gweddill flwyddyn yn hŷn, ond dangosodd Osian ei gryfder ac roedd yn fwy na hapus i orffen yn y pedwerydd safle.

Llongyfarchiadau mawr i’r ddau ohonynt a phob dymuniad da iddynt i’r dyfodol.  Dymuniadau gorau hefyd i Beca wrth iddi gychwyn ar gwrs ‘Hyfforddi Chwaraeon’ ym Mhrifysgol y Met yng Nghaerdydd.