Bwganod Brain Llanfair Clydogau

Cystadleuaeth lwyddiannus a phoblogaidd yn y pentref dros benwythnos gŵyl y banc.

gan Dan ac Aerwen
5A52C9FE-1636-47EB-ACF9

Gwobr gyntaf yn adran y plant i Sara Davies Nantymedd.

A16FBFBE-43F2-4C15-9171

Gwobr gyntaf yn adran oedolio i Stacey Buckley.

D85C9F81-D55C-4BDD-BEB9

Ail wobr yn adran oedolion i Brynmor Thomas a Llinos Thomas.

02132D3B-7FFB-47BC-8776

Ail wobr yn adran y plant i Elis Hockenhull.

02E0CDE0-FB91-407F-8626

Trydedd wobr yn adran y plant i Beca Jones.

DB2F4B18-F070-4471-91F6

Mr Urdd gan Guto Miles.

114DB8D8-C3BE-4EB0-817B

Bwgan Brain benywaidd gan Beverley Georgina Moss.

5D23C99A-8FB9-4ED9-9879

Ymgais wych gan Elonwy Thomas.

30CD9D1D-7AB6-4FEA-8901

Tipyn o gymeriad gan Ieuan Thomas (Felin).

0719550F-DF33-49A2-B5D7

‘Steve’ gan Ifan a Guto Jones, Llanfair Fach.

E3EEF46E-DB5F-4FAB-86E6

Trydedd wobr yn adran oedolion i Alexandra Fox.

Cynhaliwyd cystadleuaeth boblogaidd iawn dros benwythnos gŵyl y banc a drefnwyd gan Bwyllgor Neuadd Bentref Llanfair Clydogau.  Roedd yn agored i holl drigolion Llanfair a’u plant ac wyrion, ynghyd â ffrindiau a chefnogwyr pentref Llanfair.

Roedd rhaid arddangos bwgan brain rhywle yn ardal Llanfair erbyn 9 o’r gloch y bore ar ddydd Sul 30 Mai.

Roedd y beirniadu yn digwydd fore Sul a lleoliadau bwgan brain yn cael eu rhyddhau er mwyn i’r pentrefwyr ymweld â nhw.

Mae’r bwganod brain i gyd yn dal yn eu lle os hoffai unrhyw un eu gweld nhw. Gellir eu gweld yn: Llwyn, Llanfair Fach, Llwynpiod, Felin, Awelon, Nantymedd, Penlan Goetre, i fyny ar Longwood, y tu allan i neuadd y pentref a gyferbyn â lôn Pentre.

Da iawn i’r holl gystadleuwyr.  Dyma sylw a gafwyd ar dudalen facebook Llanfair Clydogau ddoe “Wedi gweld llawer o bobl heddiw yn mwynhau’r awyr iach ac yn edrych ar y bwganod brain. Diolch am drefnu’r digwyddiad cymunedol gwych hwn. Da iawn a diolch i bawb a gymerodd ran.”