Mae yn bleser cael ysgrifennu pwtyn byr am bob arlunydd sydd yn byw a gweithio yn ein pentref bychan ni sef Llanfair Clydogau.
Fel mae llawer ohonoch yn gwybod rydym yn cynnal arddangosfa o’n gwaith yn neuadd y pentref yn flynyddol ers rhai blynyddoedd bellach ac yn gobeithio y bydd yn bosib i wneud hynny eto eleni ym mis Awst. Byddwn yn rhoi manylion pellach yn Clonc cyn gynted ac y byddwn yn gallu gwneud y trefniadau.
Mae yn bosib gweld enghreifftiau o waith rhai ohonom ar y wefan yma facebook.
Os hoffech gael rhagor o fanylion am unrhyw un o’r artistiaid neu am eu gwaith gallwch gysylltu â fi, Aerwen Griffiths ar e-bost danville.aerwen13@btinternet.com neu ffonio ar 01570 493407.
Dyma fanylion yr olaf yng nghyfres #CelfLlanfair a gyhoeddwyd ym Mhapur Bro Clonc.
Aerwen Griffiths
Symudais yn ôl i Gymru bump ar hugain o flynyddoedd yn ôl bellach i fyw drws nesa i fy hen gartref. Rwyf, dros yr amser yna wedi cael y cyfle i ail ddarganfod fy nghynefin drwy fy arlunio, peintiadau a phrintiau.
Fy hoff ffordd o weithio yw gyda chymysgedd o wahanol ddefnyddiau – paent a phapur, pasteli o bob math, inciau, pensiliau, golusg a.y.b. Trwy hynny, rwyf yn gallu ymchwilio y defnydd sydd yn fy ngalluogi i fynegi fy nheimladau am y tirlun, ei lenyddiaeth a’i atgofion sydd yn bersonol i mi.
Gallwch weld enghreifftiau o’m gwaith ar Instagram, gwefan ‘Art and craft Ceredigion Art Trail’ ac ar wefan Grŵp Llanfair ar facebook.