#CelfLlanfair – Lisa Hardy a’i hymateb emosiynol wrth lunio gyda phaent

Y seithfed mewn cyfres o bytiau am artistiaid Llanfair Clydogau.

gan Dan ac Aerwen

Mae yn bleser cael ysgrifennu pwtyn byr am bob arlunydd sydd yn byw a gweithio yn ein pentref bychan ni sef Llanfair Clydogau.

Fel mae llawer ohonoch yn gwybod rydym yn cynnal arddangosfa o’n gwaith yn neuadd y pentref yn flynyddol ers rhai blynyddoedd bellach ac yn gobeithio y bydd yn bosib i wneud hynny eto eleni ym mis Awst. Byddwn yn rhoi manylion pellach yn Clonc cyn gynted ac y byddwn yn gallu gwneud y trefniadau.

Mae yn bosib gweld enghreifftiau o waith rhai ohonom ar y wefan yma facebook.

Dyma fanylion y seithfed yng nghyfres #CelfLlanfair a gyhoeddwyd ym Mhapur Bro Clonc.

Lisa Hardy

Symudodd Lisa i fyw i Heol Llanfair gyda’i gŵr David o Hastings bron dair blynedd yn ôl. Arlunydd celf gain yw hi sy’n cymryd ei hysbrydoliaeth o fyd natur, blodau, planhigion a choed, pethau sy’n tyfu yn yr ardd neu yn y tirlun o amgylch ei chartref.

Ei harddull yw llunio gyda phaent a phob amser yn haniaethol yn hytrach na llunio’r testun. Mae ei gwaith yn ymateb emosiynol sy’n defnyddio y lleiafrif bosib o farciau neu baent, gweithio’n gyflym a greddfol a chwarae ac ymchwilio gyda’r cyfuniad.

Mae hefyd yn cydweithio gyda EDIT 58 ar gasgliadau cyfyngedig o jwgiau enamel a theiliau wedi eu paentio gyda llaw. Mae yn creu y teiliau yng Nghrochendy eu chymdogion Jamie a Dodi yn Nantyfelin.

Os am ragor o wybodaeth a gweld ei gwaith ewch i’w gwefan.