Dwy chwaer o Lanfair Clydogau ym Mhencampwriaethau’r Byd

Llinos ac Elonwy Thomas yn taflu dartiau dros Gymru yn Gibraltar

gan Dan ac Aerwen
0152803E-C096-4B50-AD21

Mae dwy chwaer ifanc, Llinos ac Elonwy Thomas o Lanfair Clydogau, wedi bod yn cynrychioli Cymru yng nghystadlaethau Ieuenctid Dartiau Cydweithredol Cwpan y Byd a Phencampwriaeth y Byd yn Gibraltar.

Roeddent yn chwarae i Dîm B ac yn cystadlu gyda Thîm A yn erbyn 18 o dimau eraill ar draws y byd. Maent hefyd wedi llwyddo i gyrraedd rownd derfynol y JDCSuper 16, a fydd yn cael ei gynnal yn Coventry.

Yn Gibraltar, cystadlodd Elonwy yn y gystadleuaeth Sengl Agored Rhyngwladol, y MVG Masters gan ddod yn gyfartal â phencampwr y byd a Phencampwriaethau’r Byd a bu Llinos yn gapten ar ochr Cymru!

John Price, Colin Thomas, Elonwy a Llinos, oedd yn cynrychioli tîm B Cymru – y tro cyntaf iddynt gynrychioli eu gwlad a chystadlu mewn digwyddiad rhyngwladol. Yr uchafbwynt oedd yr 16 gêm ddiwethaf yn erbyn Iseldiroedd A (sef y pencampwyr ers dwy flynedd) gan ennill yn gryf yn yr hanner cyntaf cyn colli 4 i 2.

Diolch i J&E Woodworks, Brian Jenkins, Castle Green a Cadno Stud am eu nawdd hael ac i Academi Dartiau Iau Bedlam am yr holl gefnogaeth.