CLONC mis Mawrth

Llond whilber o straeon yn y papur bro gan gynnwys hanes y Clwb Rotari yn helpu achos da yn Cenia.

Rhys Bebb Jones
gan Rhys Bebb Jones
Llun-Clwb-Rotary-LLPS-Eric

Ru Hartwell yn cyfarfod Eric Mwashigadi, Llywydd Clwb Rotary Malindi yn 2018.

Llun-Clwb-Rotary-LLPS-Casglu

Pa fargen gewch am 60c y dyddiau hyn? Papur Bro Clonc wrth gwrs ac mae rhifyn Mawrth yn y siopau.

Caiff Dydd Gŵyl Ddewi lliwgar iawn ei ddathlu gan rhai o ddisgyblion Ysgol Bro Pedr ar y clawr blaen. Llwyddiant ffilm diogelwch ar y we gan rhai o ddisgyblion Ysgol Dyffryn Cledlyn ac Ysgol Bro Pedr sy’n addurno’r clawr ôl.

Darllenwch am gyfrinachau Melissa Charles-Davies, Cwmann a hel mwy o atgofion am Eisteddfod Genedlaethol Llanbedr Pont Steffan a’r Fro 1984 yn #AtgofGen Dylan Lewis. Buan y daw Sul y Mamau, ac i’r holl gogyddion creadigol gartref yn ystod y cyfnod clo, beth am ddilyn rysetiau blasus Cegin Gareth?

Cofiwch ddarllen ail ran ddiddorol Hanes Gorsaf Llanybydder gan Carys Wilson. Hefyd yr adolygiad o gyfrol teithiau difyr Anne Gwynne, Tregaron, ‘Fan Hyn a Fan ’Co’, ac elw’r gyfrol yn cael ei rannu rhwng Cymdeithas Edward Llwyd, Ambiwlans Awyr Cymru a Ward Cemotherapi Ysbyty Bronglais, Aberystwyth.

Codi arian i gefnogi achos da yn Cenia yw testun yr erthygl am Glwb Rotary Llanbed. Cewch wybod am yr ymdrechion i wella’r ddarpariaeth o ddŵr glân i drigolion Bore. Dyma brosiect rhyngwladol y clwb tan arweiniad Ru Hartwell, un o’r aelodau. Ef fu’n gwerthu’r holl eitemau ail law yn ddillad a dodrefn a dderbyniwyd yn rhoddion caredig gan drigolion Llanbed yn rhan o’r ymgyrch ‘Unrhywbeth ar gyfer Affrica?’

Ymwelodd Ru ag ardal Bore, rhanbarth arfordirol yn nwyrain Cenia yng Ngwanwyn 2018. Cyfarfu nifer o’r trigolion ac aelodau Clwb Rotary Malindi.

Clwb Rotary Malindi sy’n gweinyddu’r rhodd o £4,500 gan drigolion Llanbed sy’n rhan o’r gronfa o £45,000 drosglwyddwyd iddynt gan Ymddiriedolaeth Rotary ar ran Rhanbarth Rotary De Cymru. Bydd eich haelioni yn gwella’r ddarpariaeth o ddŵr glân, yn darparu tanciau storio dŵr ac yn cynnig hyfforddiant gwella glanweithdra i’r trigolion. Bydd yn arbed llawer ar y teithiau dyddiol llafurus gan nifer o’r trigolion o gario dŵr o’r ffynhonnau i’w cartrefi.

Ac i gloi, ydych chi’n aelod o Glwb Clonc ac ymhlith enillwyr Mawrth? Os am ymaelodi, cysylltwch gydag aelod o’r Bwrdd Busnes am y manylion.

Byddwch hefyd yn siŵr o sylwi yn rhifyn Mawrth ar yr holl fusnesau lleol sy’n cefnogi Clonc trwy eu hysbysebion. Diolch yn fawr am eu cefnogaeth gan annog darllenwyr Clonc i’w cefnogi hwythau.