Mae un o dafarnau mwyaf poblogaidd Llanbed wedi cau am ddeng niwrnod oherwydd achos arall o Covid yno.
Dywed hysbysiad ar ddrws y Nags Head yn Stryd y Bont:
Rydym yn cymryd bygythiad y pandemig o ddifrif gan weithio ochr yn ochr â’r awdurdodau a’r cwsmeriaid.
Rydym yn gwybod y byddwch yn deall y sefyllfa, ond mae lles ein cymuned, cwsmeriaid, staff a’u teuluoedd yn cael y flaenoriaeth.
Mae Covid dal yn ein plith, felly ewch am eich brechiadau, dilynwch y canllawiau a chadwch yn ddiogel.
Mae hyn yn dilyn mesurau newydd yn Fferyllfa Adrian Thomas. Cyhoeddwyd hyn ar facebook ar ddechrau’r wythnos:
Oherwydd cynnydd mewn achosion Covid sydd hefyd wedi achosi problemau staffio, bydd y rhwystrau ar flaen y siop yn ôl yn eu lle am weddill yr wythnos. Ffoniwch am bresgripsiynau yn unig neu i gasglu presgripsiynau am y tro. Diolch ymlaen llaw a chadwch yn ddiogel.
Cyhoeddwyd ar wefan Clonc360 hefyd yr wythnos ddiwethaf na ellir cerdded mewn i feddygfeydd Taliesin yn Llanbed na Brynmeddyg, Llanybydder heb apwyntiad, ac y dylid ffonio am gymorth.