Drysau Meddygfeydd Bro Pedr yn cau oherwydd Covid

Nifer peryglus o uchel o achosion Covid yn golygu mesurau meddygol llymach yn Llanbed a Llanybydder.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Mae Grŵp Meddygol Bro Pedr wedi cyhoeddi y byddant yn cau drysau meddygfeydd Taliesin Llanbed a Brynmeddyg Llanybydder o yfory ymlaen oherwydd niferoedd uchel o achosion Covid-19 yn lleol.

Gofynnir i unrhyw un â symptomau Covid-19 fel peswch, gwddwg tost a gwres uchel i drefnu prawf PCR cyn cysylltu â’r feddygfa a gwneud apwyntiad i weld y meddyg.  Pwysleisir na ddylid dibynnu ar ganlyniad negyddol profion Lateral Flow fel tystiolaeth digonol.

Caniateir mynediad i gleifion i feddygfeydd gydag apwyniadau o flaen llaw yn unig.

Os oes gennych ymholiad cyffredinol, ffoniwch 01570422665 neu drwy eConsult ar wefan Grŵp Meddygol Bro Pedr.