Cynhaliwyd gwasanaeth cyntaf erioed yn adeilad newydd Eglwys Efengylaidd Llanbed ar fore Sul, Mai 23ain.
Dyma garreg filltir rhyfeddol yr oes fodern lle gwelir cyfnod o drai yn gyffredinol ym mhatrwm addoli pobl, ond dyma gaffaeliad anferth hefyd i Lanbed a’r ardal gydag adeilad aml bwrpas modern yng nghanol y dref ar Stryd y Coleg.
Dechreuwyd ar y gwaith o godi adeilad mor bell yn ôl â 2017 drwy law yr adeiladwyr Williams & Thomas a chrefftwyr eraill lleol.
Dywed Gareth Jones ym Mhapur Bro Clonc “Roedd yn hynod bwrpasol cynnal yr oedfa gyntaf ar Fai 23ain, Sul y Pentecost, un o Ŵyliau mawr yr Eglwys Gristnogol, sy’n nodi dyfodiad yr Ysbryd Glân.”
Ychwanega Gareth Jones “Mynegwyd diolch yr eglwys i’r rhai sy’n perthyn iddi am eu holl ymdrechion i wireddu’r prosiect hwn ac yn llythrennol gael “y maen i’r wal”, heb sôn am ymdrechion unigolion ac eglwysi eraill yng Nghymru a thu hwnt.”
”Bu’n fenter fawr ym mhob ystyr, ac mae’r diolch mwyaf i’r Duw mawr sydd wedi ei wneud yn bosibl. Petai maint y sialens wedi ei datgelu o’r dechrau mae’n go debyg y byddai pawb wedi cael ofn a phenderfynu peidio â chychwyn arni! Ond bu Duw’n rasol, yn arwain o gam i gam, yn ôl ei ddoethineb a’i arweiniad ei hun.”
Lleolir yr adeilad y drws nesaf i’r Hedyn Mwstard ac fe fydd hynny’n rhoi dimensiwn ychwanegol i ddarpariaeth y ddau sefydliad gan fod adnoddau’r naill hefyd at wasanaeth y llall.
Y gobaith yw trefnu Agoriad Ffurfiol yn nes ymlaen yn y flwyddyn pan ragwelir y bydd bywyd wedi agosáu at normalrwydd unwaith eto.
Gellir darllen adroddiad llawn a lluniau yn rhifyn Mehefin Papur Bro Clonc.