Cynnydd gofalus yn y rhaglen frechu yn lleol

Diweddariad Meddygfa Llanbed o’u rhaglen frechu bwysig.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Bu peth siarad yn lleol yn ddiweddar bod y rhaglen ferchu yn lleol wedi arafu, ond heddiw cyhoeddodd Meddygfa Llanbed ddiweddariad o’u cynnydd gyda’r rhaglen bwysig hon.

“Credwn ein bod bellach wedi gorffen gweinyddu’r dos cyntaf i’n holl gleifion yn y grwpiau a ddyrannwyd inni. Os ydych wedi derbyn llythyr gennym i wneud apwyntiad neu na chysylltwyd â chi am ba bynnag reswm, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl. Bydd gennym ein clinig ‘dos cyntaf’ olaf ddydd Gwener 9fed Ebrill 2021 ym Meddygfa Brynmeddyg, Llanybydder.”

Gofynnir i bawb siarad â ffrindiau a theulu sydd efallai heb fynediad i’r we a’u hannog i gysylltu â’r feddygfa os ydyn nhw yn unrhyw un o’r grwpiau canlynol ac eto i gael eu brechu gyda’r dos 1af.

Grŵp 3: 75 – 79 oed

Grŵp 4: 70 – 74 oed ynghyd ag unigolion hynod fregus yn glinigol

Grŵp 5: 65 – 69 oed

Grŵp 6: 16 – 64 oed gyda chyflyrau iechyd sylfaenol ynghyd â gofalwyr di-dâl

Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, brechwyd holl breswylwyr cartrefi gofal lleol â’u hail ddos ​​a dechreuwyd â brechu cleifion sydd dros 80 oed gyda’u hail. Gobeithir cwblhau’r grŵp hwn erbyn diwedd yr wythnos nesaf, ond bydd hyn yn dibynnu’n llwyr ar y cyflenwad a roddir gan y Bwrdd Iechyd.

Gofynnir i gleifion sydd yng ngrwpiau 4, 5 a 6 i beidio â chysylltu â’r feddygfa i holi am ail ddos. Yn ôl canllawiau’r Bwrdd iechyd mae egwyl o oddeutu 11/12 wythnos ar gyfer y brechlyn Rhydychen / AstraZeneca. Felly ni fyddwch yn cael eich galw i mewn yn gynt na hyn.

Mae llinellau ffôn y feddygfa yn hynod o brysur. Delir ag oddeutu 8,000 o alwadau’r mis. Mae hyn tua 2,000 o alwadau yn fwy y mis na’r adeg hon y llynedd.

Dywed Sian Jones, Rheolwraig y Practis “Rydym am sicrhau bod cleifion sydd ag angen meddygol yn gallu mynd drwodd i’r feddygfa pan fo angen.  Diolch i bawb am bob cydweithrediad ac amynedd.”