gan
Dylan Lewis
Llongyfarchiadau i Delyth Evans, Tangraig ar ddod yn ail yn seremoni’r Dramodydd Ifanc yn Eisteddfod T yr Urdd heddiw.
Braf oedd ei gweld ar y llwyfan yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog gyda’i mam a’i mam-gu yn ei chefnogi yn y gynulleidfa.
Arweinydd y seremoni oedd Heledd Cynwal a’r beirniad oedd Elgan Rhys. Roedd 38 wedi cystadlu yn y gystadleuaeth hon gan gyfansoddi drama neu fonolog heb fod dros bum munud o hyd ar gyfer dim mwy na dau actor, ac a fyddai’n addas i’w berfformio ar sgrin neu lwyfan.
Rhiannon Lloyd Williams o Gaerdydd oedd yn gyntaf a Martha Grug Ifan o Langynnwr yn drydydd.
Delyth oedd yn ail yn y gystadleuaeth hon y llynedd hefyd. Tipyn o gamp yn wir sy’n dangos beth yw ei dawn arbennig fel llenor.