Neithiwr (17 Hydref) cynhaliwyd Cwrdd Diolchgarwch Ysgol Sul Noddfa, Llanbedr Pont Steffan. Dyma’r tro cyntaf i’r Ysgol Sul gynnal oedfa yn y capel oddi ar Nadolig 2019; fe gofiwch i oedfaon yn ystod 2020 a dechrau eleni gael eu darlledu fel fideos ar YouTube. Er bod yr Ysgol Sul wedi para yn ystod y pandemig (ar Zoom yn bennaf, tan y tymor hwn), mor braf oedd hi cael bod nôl gyda’n gilydd yn Noddfa unwaith eto.
Yn ôl ei harfer, paratowyd a threfnwyd yr oedfa gan y bytholwyrdd Janet Evans. Os bu rhywun yn deilwng o Medal Gee erioed, dyma hi! Llwyddodd i ffeindio job i bob plentyn a pherson ifanc, rhai cyn-aelodau o’r Ysgol Sul, yn ogystal â lot o’r mamau, ac un tad!
Daw adroddiad yn rhifyn nesaf papur bro Clonc, ond am y tro, dyma ddetholiad o luniau i gyfleu bwrlwm a hwyl y diolchgarwch.
Casglwyd dros £100 ar gyfer Ysgol Sul Noddfa, a braf oedd gweld llond ford yn y sêt fawr o duniau bwyd wedi eu cyfrannu gan y plant ar gyfer Banc Bwyd Llanbedr Pont Steffan. Diolch bawb am eich cyfraniadau, ac am gefnogaeth y teuluoedd.