Gwerthwyd dros 400 o dda stôr ym Mart Llanybydder ddydd Sadwrn gyda trêd ardderchog unwaith eto
Gwerthodd yr eidon gorau am £1,780 o eiddo Thomas, Maesymeillion a gwerthodd yr aner orau am £1,630 o eiddo Bellamy, Hendy. Gwerthodd y baren orau am £1,100 o eiddo Jenkins, Haulfryn a’r pris uchaf am fuwch a llo oedd £1,400 o eiddo Evans, Blaenpant.
Braf oedd gweld nifer o werthwyr newydd yn Llanybydder ddydd Sadwrn yn trio y farchnad am y tro cyntaf ac yn gadael yn bles iawn.
Yr arwerthiant Nadolig fydd nesaf ar y 11eg o Ragfyr lle bydd dosbarthiadau penodol wedi’u noddi gan wahanol fusnesau felly cadwch lygad allan am ragor o wybodaeth.
Hoffai Evans Bros ddiolch i bawb boed yn brynwyr neu yn werthwyr am eu cefnogaeth cyson i’r farchnad yn ogystal â staff y farchnad am sicrhau bod popeth wedi rhedeg mor llyfn.