Un o weithwyr Fferm Denmarc yn credu y bydd Tîm Pêl-droed Cymru yn ennill heno

Methu mynd i weld Cymru yn chwarae Denmarc, beth am ymweld â Chanolfan Cadwraeth Fferm Denmarc?

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

www.denmarkfarm.org.uk

Gyda Thîm Pêl-droed Cymru yn chwarae yn erbyn Denmarc yng nghystadleuaeth yr Ewros heno, mae swyddog cyllid Fferm Denmarc, Betws Bledrws yn obeithiol iawn y bydd Cymru’n fuddugol yn Amsterdam.

Mae Marc Richards sy’n gyn gapten a chyn reolwr i Glwb Pêl-droed Talybont yn dweud y dylai’r crysau cochion ennill. Mae Marc yn arfer mynd i weld bob gêm gartref a dywedodd “Mae’r gallu gan y tîm i gystadlu ar y lefel uchaf.  Rhaid iddyn nhw fynd all the way heno ac ennill.  Gareth Bale fydd yr arwr a bydd e’n siwr o sgorio.  Ryn ni’n chwarae’n agosach i gartref sy’n golygu y byddwn ni’n siwr o ennill.”

Mae Canolfan Cadwraeth Fferm Denmarc yn cael ei rhedeg gan yr Shared Earth Trust, sy’n elusen gofrestredig, yn Fferm Denmarc ger Llanbed.

Mae bywyd gwyllt wrth wraidd popeth a wneir yno. Maent yn cynnig ystod o gyfleoedd i bobl fwynhau a dysgu mwy am fyd natur.

Darpara Fferm Denmarc gyrsiau hyfforddi cadwraeth fel rheoli cynefinoedd ac adnabod rhywogaethau, gweithdai mewn crefftau naturiol a byw’n gynaliadwy, llwybrau natur o amgylch y safle hardd 40 erw, lleoliadau i’w llogi fel ystafelloedd cyfarfod a chyfleusterau eraill yn ogystal â llety fel Eco Lodge hunan-arlwyo, ystafelloedd cysgu ac eco wersylla.

Does dim unrhyw gysylltiad rhwng Fferm Denmarc a’r wlad heblaw am yr enw.  Sefydlwyd y fferm rywbryd rhwng 1799 a 1819 gan John Jones a oedd yn byw yn Llundain ar y pryd, ger Denmark Hill (sy’n dal i fodoli heddiw).  Ar ôl gwneud ei ‘ffortiwn’ dychwelodd Mr Jones i’w famwlad annwyl i gychwyn fferm.

Ysgrifennodd Joseph Jenkins y Swagman o Dregaron y pennill hwn am un digwyddiad yn Fferm Denmarc 150 o flynyddoedd yn ôl:

Yn Denmarc Farm mae Spill yn byw

A’r gwaethaf dyn a greodd Duw,

Aeth un o’r da i gae yr yd

A thyngodd y diawl fod nhw yno i gyd.

Sefydlwyd Shared Earth Trust fel elusen ym 1987 mewn ymateb uniongyrchol i’r dirywiad cenedlaethol mewn cynefin bywyd gwyllt a bioamrywiaeth tir fferm. Fel llawer o rai eraill, roedd Fferm Denmarc wedi cael ei dwysáu’n raddol ac roedd ei chaeau glaswellt rhyg a’i gwrychoedd noeth yn nodweddiadol o ddarnau helaeth o dir pori.

Nod Fferm Denmarc oedd gweld a ellid gwrthdroi’r broses ddiraddio hon heb fewnbynnau mawr na chost cyfalaf a monitro cyflymder a maint dychweliad bywyd gwyllt. Sefydlwyd system bori fwy traddodiadol gan ddefnyddio gwartheg yn hytrach na defaid.  Dechreuwyd cynaeafu gwair, blocio draeniau caeau, atal y rhan fwyaf o fewnbwn gwrtaith a ffensio gwrychoedd, nentydd a ffosydd sydd wedi eu gorbori i helpu prosesau naturiol.

Mae gan Fferm Denmarc raglen o weithgareddau diddorol ar gyfer yr haf a gellir cael mwy o fanylion amdanynt ar y wefan.  Mae’r cwrs gwneud basgedi heddiw yn llawn, ond ym mis Gorffennaf gellir llogi lle ar y cyrsiau canlynol:  Nyddu Gwlân, Cyflwyno anifeiliaid di-asgwrn-cefn, Darganfod coed yn yr haf, Ffeltio nodwydd, Gwehyddu helyg ac Ecoleg gwenyn, cacwn a morgrug.

Felly, er nad oes modd teithio heddiw i weld Tîm Pêl-droed Cymru yn herio Denmarc yn yr Ewros, beth am ymweld â Fferm Denmarc sydd ar drothwy’r drws?