gan
Dylan Lewis
Mae pobl yr ardal hon yn ymfalchïo ym mhenodiad y Gwir Barchedig Andy John yn Archesgob newydd Cymru heddiw.
Daeth y Gwir Barchedig Andy John yn ficer ar eglwysi St. Padrig, Pencarreg; St. Iago, Cwmann; Dewi Sant, Llanycrwys ac yn Archddiacon Aberteifi yn 2006 tan iddo gael ei wneud yn Esgob Bangor yn 2008.
Dywedodd ficer presennol Pencarreg, Cwmann, Llanycrwys, Cellan a Llanfair Clydogau – Y Parchedig Carys Hamilton “Rwyn siwr ein bod ni gyd yn ymfalchio yn y newyddion gwych yma. Boed iddo fod yn Fugail a fydd yn ein harwain yn ffyddlon, yn fendithiol ac ar hyd llwybrau cyffrous newydd.”