Tîm Ieuenctid Llanbed 

Cit newydd a gêm glos i Lanbed yn erbyn Llandeilo ddydd Sadwrn.

Dyma Ieuenctid Llanbed yn gwisgo cit newydd. Diolch yn fawr iawn i’r noddwyr: Dunbia, Windy Corner, Teifi Forge, E&M Motor Factors, Cyfri, PJE, DC Evans, Morgan & Davies, Cambrian Pet Foods a W D Lewis a’i fab.

Croesawodd Ieuenctid Llanbed dîm Llandeilo i chwarae ar gaeau Clwb Rygbi Llanbed brynhawn Sadwrn, Hydref 16eg. Roedd gan y tîm cartref garfan fawr a chafodd pob chwaraewr gyfle i chwarae yn ystod y gêm.

Dechreuodd y gêm yn gyfartal, gyda’r ddwy ochr yn amddiffyn yn galed. Sgoriodd Llandeilo gais o fewn 15 munud gan wneud y sgôr yn 0-5. Daeth cais arall yn gyflym i Landeilo gan fynd â’r sgôr i 0-10.

Tarodd Llanbed yn ôl yn dilyn sgrym gydnerth a chroesodd Carwyn Davies y llinell am gais gyda Jack Lloyd yn trosi gan fynd â’r sgôr i 7-10. Yna dyfarnwyd cic gosb i Lanbed a throswyd honno gan Jack Lloyd i unioni’r sgôr 10-10 ar hanner amser.

Dechreuodd yr ail hanner yn debyg iawn gyda’r ddau dîm yn amddiffyn eu tiriogaeth yn dda. Sgoriodd Llandeilo gais dda gan fynd â’r sgôr i 10-15. Roedd Llanbed yn pwyso’n galed am ail gais ac wedi dyfalbarhau daeth honno i Daniel Aled Davies i wneud y sgôr yn 15-15.

Yn ystod y 5 munud olaf o chwarae llwyddodd Llandeilo i dirio unwaith gan gipio’r fuddugoliaeth 15-22. Gêm rhagorol rhwng dau dîm da iawn.