Aeth dros blwyddyn ers dechrau’r Cyfnod Clo, ac er mwyn nodi hynny mae Clonc360 yn holi gweithwyr lleol am effaith cyfyngiadau Covid-19 arnynt yn y flwyddyn.
Mae Krystian Byczyk a’i deulu yn berchen siop fwyd Ladybug ac yn arbenigo mewn bwydydd o wlad Pwyl. Lleolir y siop (lle roedd siop Lomax) ar Heol y Bont, Llanbedr Pont Steffan. Diolch yn fawr Krystian am ateb y cwestiynau.
Beth yw’r heriau mwyaf chi wedi’u hwynebu yn y flwyddyn ddiwethaf?
Mae wedi bod yn gyfnod anodd i bob un ohonom. Yn achos y busnes, bu’n waith caled sicrhau ein bod yn cadw lan gyda’r holl ganllawiau a’r newidiadau e.e. gwisgo mygydau a defnyddio hylif hylendid dwylo. ‘Roedd angen egluro’r rheolau i’n cwsmeriaid yn aml, gan bwysleisio eu bod yn hanfodol i’w defnyddio yn y siop er mwyn cadw ni a nhw yn ddiogel. ‘Rwy’n amau weithiau bod rhai yn tybio fy mod yn ddychymygu’r holl reolau!
‘Rydym hefyd wedi bod yn pryderu a fyddai’r cyflenwadau i’r siop yn ein cyrraedd o Wlad Pwyl. Hefyd, a fyddent yn dod mewn pryd i ateb gofynion ein cwsmeriaid.
Beth sydd wedi newid eleni a sut ’rydych chi wedi gorfod addasu?
Mi wnaethom i gyd lwyddo i addasu a chydymffurfio gyda’r holl reolau a chanllawiau. Credaf erbyn hyn fod pawb ohonom wedi blino ar y sefyllfa ac yn edrych ymlaen at gael gweld a mwynhau cwmni ein teuluoedd a’n ffrindiau. Ni fu hynny’n bosib yn ystod y cyfnodau clo.
Beth ydych chi wedi dysgu dros y cyfnod clo?
‘Rydym wedi dysgu pa mor fregus yw bywyd mewn gwirionedd. Mae mor bwysig hefyd mewn cyfnodau anodd fel hyn i allu rhoi a derbyn cymorth a chefnogaeth gan y gymuned leol. Diolch i bobl Llanbed a’r ardal am eu cefnogaeth i ni.