Mwynhaodd torf enfawr gêm gyffrous ar gaeau coffa Ffordd y Gogledd, Llambed ar ddydd Sadwrn. Fe ddaeth y tîm cartref i mewn i’r gêm yn ddiguro, tra bod yr ymwelwyr, Aberaeron, ond wedi colli un gêm hyd yn hyn, a hwnnw yn erbyn y tîm cartref.
Dechreuodd y Llambed ar dân, ac yn wir, ar ôl chwarter cyntaf y gêm roeddent yn ennill 13-0. Gyda’r cefnwr Rhys Douglas yn edrych yn beryglus pob tro roedd e’n cyffwrdd â’r bêl a’r canolwr Tomos Rhys Jones a’r rheng ôl o Rob Morgam, James Edwards a Ryan Holmes yn cario’n galed, roeddent yn edrych petaen nhw am sgorio pob tro roeddent yn ennill pêl lân. Daeth cais cyntaf y gêm i’r canolwr ifanc, Jac Williams. Rhedodd yn rymus ymlaen i bas ei gyd-ganolwr Jones er mwyn ymestyn am y llinell gais. Trosodd Douglas y cais, ac yn fuan wedyn ychwanegodd dwy gic gosb arall.
Ar ôl dechreuad gwych i’r tîm cartref, fe frwydrodd yr ymwelwyr yn ôl mewn i’r gêm yn ystod y 30 munud nesaf. Roedd eu blaenwyr yn cario’n galed a’r cefnwyr yn edrych yn beryglus, er eu bod yn gweld eisiau nifer fawr o’u cefnwyr profiadol oherwydd llwyth o anafiadau. Gwaethygodd hyn hanner ffordd drwy’r hanner cyntaf, pan gafodd y canolwr Dyfrig Dafis anaf cas i’w pen-glin.
Erbyn hanner amser roedd y sgôr yn 13-3. Ond ar ôl 10 munud o’r ail hanner roedd hi’n 13-9 gyda’r cefnogwyr cartref yn dechrau pryderu bod eu tîm nhw wedi colli eu ffordd a’u pennau. Fe ddechreuodd Llambed ledaenu’r bêl ychydig yn fwy a chicio llai, ac fe wnaeth y newid yma mewn meddylfryd dalu ffordd pan dorrodd Douglas drwy’r llinell unwaith eto a bwydo’r asgellwr chwimwth, Idris Lloyd i sgorio yn y cornel.
Brwydrodd yr ymwelwyr yn ôl yn syth, gyda chais i Gethin Dafis. Gyda 20 munud i fynd roedd y sgôr nawr yn 18-14. Sicrhaodd y tîm cartref y fuddugoliaeth yn y 5 munud nesaf trwy sgorio 2 gais a 2 gic gosb. Idris Lloyd unwaith eto sgoriodd yn y cornel. Derbyniodd y bêl tu fewn hanner ei hunan, rhedeg o gwmpas yr amddiffyn cyn torri tu fewn y cefnwr i sgorio cais unigol gwych.
Ciciodd Douglas cic gosb, cyn i Jac Williams garlamu drosodd am ei ail gais ef yn dilyn gwaith adeiladol gwych gan Dion Hughes a Rhodri Williams. Ychwanegodd Rhys Douglas gic gosb arall i gloi’r sgorio gyda 10 munud o’r gêm i fynd. Wrth i’r gêm orffen, roedd cefnogwyr y ddau dîm yn gallu mynd adref yn hapus; cefnogwyr Aberaeron yn hapus gydagangerdd ac ymrwymiad eu tîm a chefnogwyr Llambed yn hapus gyda’r ceisiau sgoriodd eu tîm a’r ffaith eu bod nhw wedi cadw eu record ddiguro.
Bydd Llanbed yn chwarae dwy gêm o fewn 4 diwrnod yn erbyn Sanclêr nesaf (oddi cartref ar ddydd Sadwrn 16eg, cartref ar nos Fercher 20fed) a fydd yn penderfynu pa dîm fydd yn gorffen ar frig y tabl.