Cyhoeddodd Cyngor Sir Caerfyrddin heddiw bod bwriad i dref Llanybydder dreialu system Di-wifr tref.
Mae’r system newydd, sydd wedi’i hariannu drwy raglen LEADER ac yn cyd-fynd â menter Deg Tref y sir, yn darparu Wi-fi am ddim i fusnesau ac ymwelwyr sy’n dymuno cael mynediad i’r rhyngrwyd.
Llanybydder yw’r dref ddiweddaraf i elwa o brosiect Trefi Wi-fi Sir Gaerfyrddin sy’n gosod y system mewn ardaloedd allweddol. Mae’r system eisoes wedi’i gosod yng Nghaerfyrddin, Llandeilo, Hendy-gwyn ar Daf a Sanclêr ac mae bwriad i’w chyflwyno yng Nghwmaman, Cross Hands, Llanymddyfri, Talacharn a Chastellnewydd Emlyn yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Mae’r system yn gallu cynhyrchu adroddiadau sy’n gallu dangos nifer yr ymwelwyr yn y dref, faint o amser maen nhw’n ei dreulio yn y dref a pha mor aml maen nhw’n ymweld.
Bydd hefyd yn cofnodi data gwerthfawr i gefnogi gwell profiad i ymwelwyr ac yn helpu twf economaidd.
Gall defnyddwyr y rhwydwaith hefyd gofrestru i dderbyn deunyddiau marchnata sy’n rhoi cyfle i bob tref rannu’r hyn sydd ganddynt i’w gynnig i gynulleidfa ehangach drwy e-gylchlythyr.
Dywedodd y Cynghorydd Ann Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros gymunedau gwledig: “Rydym wrth ein bodd bod y gwasanaeth am ddim hwn ar gael ar gyfer Llanybydder. Mae cysylltedd digidol yn gyfleustod hanfodol yn y gymdeithas heddiw ac mae’n galluogi trigolion ac ymwelwyr i gael mynediad i’r rhyngrwyd ac i ddarganfod beth sydd gan fusnesau lleol i’w gynnig.”
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn, neu os ydych yn fusnes yn un o’r ardaloedd dan sylw ac yn dymuno derbyn adroddiadau misol, cysylltwch â RDPsirgar@sirgar.gov.uk
Derbyniodd y prosiect hwn gyllid drwy Raglen Datblygu Gwledig 2014-2020 ‘Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru’, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Cyllidir rhaglen LEADER drwy’r Cynllun Datblygu Gwledig ar gyfer Cymru (2014-2020), a’i nod yw cael pobl, busnesau a chymunedau lleol sy’n ymwneud â darparu atebion cynaliadwy ac arloesol i fynd i’r afael â rhai o’r heriau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol sy’n wynebu ardaloedd gwledig.
Ardaloedd prosiect Trefi Wi-Fi Sir Gaerfyrddin yw:
- Sanclêr
- Hendy-gwyn ar Daf
- Llandeilo
- Llanybydder
- Llanymddyfri
- Pentywyn
- Caerfyrddin
- Talacharn
- Castellnewydd Emlyn
- Cross Hands
- Cydweli
- a Chwmaman